Beth yw presgripsiynu gwyrdd?
Presgripsiynu gwyrdd yw’r ymarfer o gefnogi pobl i fynd yn ôl i natur gyda gweithgareddau i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol.
Ymunwch â’n gweminar am ddim i glywed gan gyfarwyddwr Cynon Valley Organic Adventures, Janis Werrett. Bydd hi yn sôn am gymorth presgripsiynu gwyrdd a chyfleoedd gwirfoddoli yn seiliedig ar natur y maent wedi eu creu.
Cynhelir y sesiwn ar-lein, wedi ei chyflwyno yn Saesneg, rhwng 17.00 a 18.00 ar ddydd Mercher 26 Mehefin.
Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru
Yn 2021, fe wnaethant dderbyn pecyn gardd am ddim o’n cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ers hynny, maent wedi parhau â’u taith i gefnogi gwirfoddolwyr trwy wneud y gorau o’u gardd trwy weithgareddau natur.
Manteisiwch ar eich mannau gwyrdd, cadwch le ar y weminar unigryw hon heddiw.