Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd? Dewch draw ein hyb ailgylchu ar y campws ddydd Iau 10 Tachwedd.
Amser: 10-15.00
Dyddiad: Dydd Iau 10 Tachwedd 2022
Lleoliad: Ruthin Gardens, Cardiff, CF24 4AU
Mae rhoi bywyd hirach i’ch eitemau yn lleihau sbwriel ac yn gadael i chi gael gwared ar eich eitemau diangen yn gywir ♻️
Byddwn ar y safle ynghyd â Thîm Gwastraff Caerdydd a Benthyg Cymru o 10-3, felly dewch â’ch hen eitemau lawr i’w hailgylchu ar y campws ar y diwrnod, neu rhoddwch beth bynnag nad oes ei angen arnoch i lyfrgell deithiol Benthyg o bethau.
♻️ Gwastraff trydanol fel tostiwr / gwefrwyr / sychwyr gwallt / lampau 👗 Eitemau dillad
Mae’r digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus, Caffi Trwsio Cymru Benthyg Cymru a Thîm Gwastraff Cyngor Caerdydd.
Fe sylwch ein bod ni wedi ychwanegu cyfeiriad what3words at wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r union fan cyfarfod ar gyfer y caffi atgyweirio. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.
PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad os ydych chi’n teimlo’n sâl neu wedi profi’n bositif am COVID-19.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â comms@keepwalestidy.cymru