A A A

Tocio a Chynnal Coed Ffrwythau

12/06/2024 @ 17:00 - 18:00

Ar-lein

Rhowch sylw i’ch hoff goed ffrwythau!

Dyma eich cyfle i ddysgu sut i docio a chynnal coed ffrwythau yn iawn i wella eu siâp, rheoli eu maint, ac – yn hollbwysig – hybu twf iach.

Ymunwch â’n gweminar i glywed gan yr anhygoel Tom Adams, perchennog planhigfa coed ffrwythau organig Tom the Apple Man yng Nghroesoswallt. Bydd yn rhannu ei wybodaeth, yn rhoi awgrymiadau ac yn ateb cwestiynau am docio a chynnal.

Cynhelir y sesiwn ar-lein, wedi ei chyflwyno yn Saesneg, rhwng 17.00 a 18.00 ar ddydd Mercher 12 Mehefin.

Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru

Archebwch le ar y weminar unigryw hon i ddysgu technegau tocio coed defnyddiol fydd yn helpu eich hoff goed ffrwythau i ffynnu.