A A A

Ras 5K Siôn Corn Clwyd 2021

05/12/2021 @ 10:00 - 11:00

o 8 tocynnau ar gael

Ymunwch â’n tîm ar gyfer Ras 5K Siôn Corn Clwyd!

Rydym yn llawn cyffro i fod yn cymryd rhan yn Ras 5K Siôn Corn Clwyd eleni ar 5 Rhagfyr, ac rydym yn chwilio am ddarpar Sionau Corn i ymuno â’n tîm!

Mae gennym 20 o docynnau oedolion a phum tocyn plentyn AM DDIM.

Mae’r llwybr 5,000m yn mynd â chi i fyny Moel Famau ar hyd Bryniau Clwyd.  Mae Ras Siôn Corn yn ddigwyddiad teuluol – gallwch gerdded, loncian neu redeg ac anogir anifeiliaid anwes i ymuno yn yr hwyl hefyd!

Byddwn yn rhoi pecyn codi sbwriel i bob Siôn Corn er mwyn i chi allu ‘plogio’ (codi sbwriel tra’n loncian) a helpu i gadw’r ardal hardd hon o’r wlad yn lân ac yn ddiogel.

Bydd rhedwyr yn derbyn gwisg Siôn Corn ar y diwrnod, medal ar ôl cwblhau’r ras a’r holl offer codi sbwriel angenrheidiol wrth gyrraedd.

Mae’n rhaid i bawb sydd yn cymryd rhan fewngofnodi ar y diwrnod ym Maes Parcio Pen Barras, Moel Famau o 9am a bydd y ras yn dechrau am 10am.

Cofrestrwch eich diddordeb isod i ymuno â Thîm Ras Siôn Corn.  Byddwn mewn cysylltiad yn fuan am fwy o wybodaeth.

Os bydd pethau’n newid a’ch bod yn methu â mynychu, cysylltwch â’r tîm yn comms@keepwalestidy.cymru er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth