Daliwch i fyny â’n gweminar i ddysgu’r holl strategaethau diweddaraf ar gyfer recriwtio a chadw gwirfoddolwyr amgylcheddol.
Ymunwyd â ni gan dîm o arbenigwyr diwydiant ac arweinwyr grwpiau cymunedol profiadol, yn cynnwys Jamie Horton o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), Peter Arnold o Plant Dewi a Phil Star o Grŵp Cymunedol Cyfarthfa.
Fe wnaethant rannu eu mewnwelediadau gwerthfawr ac archwilio sut i greu profiadau gwirfoddoli cynhwysol a gwerth chweil; arfer gorau ar gyfer cynnwys a hyfforddi gwirfoddolwyr; a sut y gall gwasanaethau gwirfoddol lleol gefnogi eich gwaith.
Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd hon yn rhan o gyfres o weminarau am ddim wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer grwpiau a gwirfoddolwyr cymunedol amgylcheddol yng Nghymru. Cafodd ei chyflwyno yn Saesneg, ond mae trawsgrifiad llawn ar gael yn Gymraeg ar gais.