Wrth i ni lansio ein hadnoddau awyr agored newydd, rydym yn estyn gwahoddiad i’ch dosbarth cyfan ymuno â ni yn fyw i gymryd rhan a chael hwyl. Mae’r sesiwn yma wedi ei targedu at flynyddoedd 3 a 4.
Ymunwch a ni am 45 munud am 9.30 ac eto am 2.30 am 20 munud i rannu sut hwyl y gafoch.
Bob hanner tymor byddwn yn gwneud sesiwn gyda gwahanol thema:
Hydref: Sbwriel a Gwastraff Tachwedd: Ynni, Trafnidiaeth a Dŵr Chwefror: – Bioamrywiaeth a Thiroedd Ysgol Mawrth– Iechyd a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y pedwar neu ddim ond un neu ddau; byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni.
Ar ôl i chi gofrestru yma, byddwn mewn cysylltiad i gadarnhau cyrchu’r platfform llif byw ar gyfer y gweithdai.