A A A

Cefnogi Gweithredu Cymunedol

22/08/2024 @ 17:00 - 18:00

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi ein cymuned anhygoel o wirfoddolwyr i weithio’n ddiogel ac yn gynaliadwy.

Daliwch i fyny â’n gweminar Cefnogi Gweithredu Cymunedol i ganfod mwy am Hybiau Codi Sbwriel, sut rydym yn helpu grwpiau newydd i ffurfio, a sut gallwch gael gafael ar ein siop un stop o adnoddau digidol am ddim.

Byddwch hefyd yn cael gwybod sut i ddefnyddio ein Map Effaith Gymunedol, sy’n dod â’r holl ddata sy’n cael ei rannu ar eCyfrif Cymru ynghyd. Mae’n ffordd wych o weld y darlun cyflawn a dathlu grym gwirfoddoli.

Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd hon yn rhan o gyfres o weminarau am ddim wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer grwpiau a gwirfoddolwyr cymunedol amgylcheddol yng Nghymru.

Ymweld â’r Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr

Wedi ei gynllunio i helpu gwirfoddolwyr i wneud eu gweithgareddau yn ddiogel ac yn gynaliadwy, mae ein Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr yn llawn deunyddiau, dolenni a chyngor defnyddiol.

Mynd i’r hyb

Gweld y Map Effaith Gymunedol

Gallwch weld y gwaith anhygoel y mae unigolion, grwpiau a sefydliadau angerddol yn ei wneud i ofalu am amgylchedd Cymru.

Mynd i’r map

Eisiau archebu lle ar sesiwn fyw? Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i ganfod beth sy’n dod i fyny.