Yn 2020, rhoddwyd draenogod ar y rhestr goch ar gyfer mamaliaid Prydain sydd mewn perygl o ddifodiant. Dyma pam y mae’n eithriadol o bwysig diogelu’r rhywogaeth werthfawr hon.
Mae llawer o bethau sy’n niweidiol i ddraenogod, fel coelgerthi, cemegau gardd a sbwriel. Ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud i gefnogi draenogod.
Cadwch le ar y weminar hon sydd am ddim i ddysgu mwy.
Bydd Sarah Liney, ymddiriedolwr a thrysorydd y Llinell Gymorth Draenogod, yn ymuno â ni a bydd yn amlinellu’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud i helpu draenogod. Bydd yn sôn am y ffordd y gallwch godi ymwybyddiaeth ac annog eraill i gymryd rhan i ddiogelu draenogod.
Peidiwch â cholli’r weminar unigryw hon. Dewch i gael atebion i’ch cwestiynau. Cyflwynir y sesiwn ar-lein yn Saesneg, rhwng 17.00 a 18.00 ddydd Mercher 09 Hydref. Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru
Mae Sut i Helpu Draenogod yn rhan o gyfres newydd o weminarau natur i annog unigolion a chymunedau i ymddiddori mewn natur. Os ydych yn grŵp neu’n sefydliad cymunedol ac eisiau creu gardd hardd lle gall natur ffynnu, gwnewch gais am becyn AM DDIM o’n cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.