A A A

Tacluso Gellideg

24/09/2024 - 25/09/2024

Ystâd Gellideg

Dewch i ni ddangos ychydig o gariad tuag at yr ystâd!

Ymunwch â ni am ddau ddiwrnod o godi sbwriel, garddio a chlirio eitemau tipio anghyfreithlon.

Bydd ein swyddog prosiect lleol, Mark Davies, wrth law i ateb cwestiynau a rhoi cyngor ar wastraff ac ailgylchu.

Popeth sydd angen i chi ei wybod:

Cynhelir ymgyrch Tacluso Gellideg ddydd Mawrth 24 Medi a dydd Mercher 25 Medi, rhwng 9.00am a 3.00pm.

Byddwn yn cwrdd ym maes parcio Merthyr Valley Homes bob bore yn 22 Lansbury Road, Gellideg, Merthyr Tudful CF48 1HA.

Rydym yn ymuno â sefydliadau anhygoel, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, Merthyr Valley Homes, Tai Merthyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water, Tai Wales & West a Chymdeithas Adeiladu Principality.

Cefnogir yr ymgyrch glanhau gan ein Hyb Codi Sbwriel newydd sbon yn Gellideg Foundation.

I ganfod mwy, cysylltwch â Mark. Ffoniwch 07918 585012  neu e-bostiwch mark.davies@keepwalestidy.cymru