Ymunwch â digwyddiad Tacluso Llwybr Ebwy Fach!
Rhwng 4-13 Hydref 2024, bydd digwyddiad Tacluso Llwybr Ebwy Fach yn cael ei gynnal mewn lleoliadau ar hyd Llwybr Ebwy Fach, dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus, mewn partneriaeth â’n grwpiau cymunedol, canolfannau casglu sbwriel, ysgolion a gwirfoddolwyr.
Nod y digwyddiad yw dod â phobl at ei gilydd wrth greu Llwybr Ebwy Fach glanach i bawb ei fwynhau.
Mae croeso i bawb ymuno!
Rydym am i’r ymgyrch lanhau newydd sbon hon fynd mor llyfn â phosibl; rydym hefyd eisiau sicrhau bod gennym ni ddigon o bobl i gasglu sbwriel! Helpwch ni trwy lenwi’r ffurflen gyflym isod a rhoi gwybod i ni pa sesiynau glanhau yr hoffech chi ymuno â nhw.
Allwn ni ddim aros i’ch gweld chi i gyd ym mis Hydref!
I ddarganfod ac ymuno â digwyddiad yn agos atoch chi, defnyddiwch y map isod sy’n dangos lleoliadau digwyddiadau a manylion pellach.
Mae’r fenter hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.