Mae ein cyrsiau ni i gyd yn cael eu darparu am ddim a’u hwyluso gan Staff profiadol Cadwch Gymru’n Daclus. Cynhelir pob hyfforddiant rhithwir trwy Microsoft Teams. Gallwch ymuno trwy borwr gwe os nad yw Teams ar gael ar eich dyfais.
Gyda dysgu yn yr awyr agored yn amlwg o fewn Cwricwlwm Cymru, rydym wedi datblygu sesiwn hyfforddi ysbrydoledig sydd wedi’i thargedu at staff ysgolion cynradd er mwyn eu helpu i ddefnyddio tiroedd yr ysgol fel adnodd dysgu yn ogystal â bod yn hafan i fywyd gwyllt. Mae’n cysylltu’n arbennig o dda â phynciau Tir yr Ysgol a Bioamrywiaeth Eco-Sgolion ac yn rhoi dulliau ar gyfer dod â sgiliau allweddol i ddysgu drwy natur a thrwy greu cynefinoedd.
• Pwysigrwydd tir yr ysgol o ran bywyd gwyllt. • Datblygu syniadau i gynnwys pobl ifanc wrth greu cynefinoedd a’r broses gynnal. • Deall y gall fod yn broses syml, heb lawer o gost. • Archwilio’r ffordd y gellir defnyddio cynefinoedd fel adnodd addysgol. • Deall y gellir cysylltu datblygu tir yr ysgol â’r broses Eco-Sgolion yn ogystal â’r cwricwlwm ehangach