Bydd ein hyfforddiant sefydledig ar gyfer eco-gydlynwyr newydd uwchradd yn rhedeg bob tymor y flwyddyn academaidd hon fel sesiwn hyfforddi rithwir dwy ran, yn rhedeg dros ddwy sesiwn cyfranogol o ddwy awr. Bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â phroses graidd Eco-Sgolion a sut i redeg y rhaglen yn effeithiol yn eich ysgol, gan gynnwys sut i ymgorffori yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd digon o ysbrydoliaeth gan ysgolion uwchradd eraill ledled Cymru. Byddwn hefyd yn ymdrin â sut i wneud cais am wobrau ac awgrymiadau da ar gyfer cwblhau eich asesiad yn rhithwir neu wyneb yn wyneb. Bydd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn cynnwys cyfleoedd i rannu profiadau gyda chydlynwyr eraill yn ogystal â thrafod sut i oresgyn heriau. Os ydych chi’n newydd i rôl y Cydlynydd Eco neu os oes angen sesiwn diweddaru arnoch, yna rydym yn eich annog i ymuno A ni.
Mae hwn yn benodol ar gyfer Addysgwyr Uwchradd. Gweler y dudalen digwyddiadau ar gyfer hyfforddiant â ffocws cynradd.
Please check email address is identical