Mae coedwrych yn rhan hanfodol o dirwedd Cymru, yn cefnogi amrywiaeth enfawr o rywogaethau ac yn gweithredu fel coridorau ar gyfer bywyd gwyllt trwy gysylltu pocedi o ofod gwyrdd gwerthfawr. Yn anffodus, mae coedwrych ar draws y wlad mewn perygl o gael eu rheoli’n amhriodol, eu dinistrio a’u hesgeuluso, yn arbennig mewn ardaloedd trefol.
Gyda chymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn datblygu Prosiect y Goedwig Hir Drefol gyda’r nod o ddiogelu ac adfer coedwrych yng Nghaerffili, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.
Mae angen eich cymorth chi arnom i lunio dyfodol y prosiect cyffrous hwn. Ymunwch ag un o’n hymgynghoriadau cymunedol am ddim i:
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fod yn rhan o rywbeth arbennig!
I gadw lle, llenwch y ffurflen isod, gan ddewis pa ddigwyddiad yr hoffech ei fynychu a rhoi gwybod i ni am unrhyw ofynion deietegol neu fynediad.
Gwnaed y digwyddiadau hyn yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol.
Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch â’r tîm. E-bostiwch longforest@keepwales.cymru
Nodwch, mae’r digwyddiad yng Ngerddi’r Rheilffordd, Caerdydd ar 24/01/2025 yn llawn.