Dewch draw i sesiwn rithiol bwrpasol a ddarperir gan Eco-Sgolion Cymru wrth i ni baratoi ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru.
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn ennyn diddordeb dysgwyr i archwilio popeth yn ymwneud â sbwriel, o ble mae’n dod? Pam ei fod yn broblem? Beth allwn ni ei wneud am y peth?!
Bydd disgyblion yn cael eu harfogi â’r holl wybodaeth maen nhw ei hangen i ymgolli yn y Gwanwyn Glân eleni, ymgyrch amgylcheddol gweithredu torfol fwyaf y genedl. Bydd syniadau ac arweiniad ar gyfer cyfleoedd dysgu awyr agored dilynol hefyd yn cael eu rhannu.
Byddwn hefyd yn dathlu’r ymdrechion rhyfeddol mae ysgolion wedi’u gwneud wrth gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae casglu sbwriel yn ffordd wych o ymgysylltu â’r cwricwlwm, i fod yn yr awyr agored a gwneud gwahaniaeth nodedig i gymuned leol eich ysgol.
Llenwch y ffurflen isod i hawlio eich lle ar gyfer y digwyddiad byw i ddisgyblion.