Hoffech chi chwarae eich rhan yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ond ddim yn siŵr sut i wneud hynny? Dyma eich cyfle i weithredu a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol!
Wrth i arweinwyr y byd ddod ynghyd yn Glasgow ar gyfer COP26, bydd pobl yn gorymdeithio mewn dinasoedd ar draws y byd i ysbrydoli gweithredu cadarn ar newid hinsawdd.
Rydym yn trefnu bloc ‘di-sbwriel’ Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Diwrnod Gweithredu Byd-eang Caerdydd ar 6 Tachwedd ac yn chwilio am unrhyw un sy’n dymuno cynrychioli Cadwch Gymru’n Daclus a chymryd rhan yn yr orymdaith i ysbrydoli gweithredu cadarn gan arweinwyr y byd ar newid hinsawdd.
Mae croeso i chi greu a dod â’ch baneri neu blacardiau eich hun ar y diwrnod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni comms@keepwalestidy.cymru
Rydym hefyd wedi ymuno â RSPB Cymru, WWF Cymru, Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, Afonydd Cymru ac INCC i gynnal bloc ‘Bioamrywiaeth’. Os hoffech orymdeithio fel rhan o’r bloc bioamrywiaeth gyda phobl eraill sydd yn caru natur ymunwch yma.
Bloc ‘Di-Sbwriel’ Cadwch Gymru’n Daclus: Byddwn yn cyfarfod am 11.45am yng Ngerddi Alexandra (Union fan cyfarfod i’w gadarnhau)
Prif fan cyfarfod yr orymdaith: 12pm yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3ND
Llwybr gorymdeithio: 12.30pm – Stryd y Castell, Heol Santes Fair, Stryd Bute, Bae Caerdydd, Senedd (i’w gadarnhau)
Rali yn y Senedd: tua 1.30pm-2.30pm.