I ddathlu ein 50 mlwyddiant, byddwn yn galw heibio i amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous yr haf hwn – o driathlonau i sinemâu awyr agored i farathonau a sioeau busnes. Wrth gwrs, ni allwn anghofio am y prif ddigwyddiad yng nghalendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru!
Bydd gennym stondin yn Rhodfa A am bedwar diwrnod a byddem wrth ein bodd pe byddech yn galw heibio i ddweud helo. Mae dau ddigwyddiad arbennig iawn hefyd yr hoffem i chi fod yn rhan ohonynt:
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf: #LleisiauTaclus yn meddiannu stondin Dŵr Cymru
Yn galw ar bawb sydd yn 15–25 oed! Mae’n amser dweud eich dweud ar yr amgylchedd.
Fel rhan o’n cenhadaeth i roi llais i bobl ifanc, byddwn yn meddiannu stondin Dŵr Cymru ar 19 Gorffennaf.
Bydd ein tîm #LleisiauTaclus yn annog ymwelwyr â maes y sioe sydd yn 15-25 oed i gwblhau arolwg ynghylch sut dylem fod yn gofalu ar ôl yr amgylchedd. Byddwn hefyd yn cadw golwg am arweinwyr amgylcheddol y dyfodol i ymuno â’n Bwrdd Ieuenctid newydd sbon.
Bydd y DJ ar BBC Radio Wales a’r artist reggae Aleighcia Scott yn ein helpu ni i roi’r gair ar led yn ei rôl fel Llysgennad Ieuenctid. Hi fydd ein ‘gohebydd crwydrol’ ar faes y sioe, yn sgwrsio â phobl ifanc am faterion amgylcheddol.
Dydd Mercher 20 Gorffennaf: Nathan Wyburn yn stondin Cadwch Gymru’n Daclus
Ynghyd â’r artist portreadau Nathan Wyburn a’r cynhyrchydd diodydd Radnor Hills, rydym eisiau ysbrydoli ymwelwyr â maes y sioe i feddwl ble mae eu gwastraff yn mynd a chefnogi’r economi gylchol. Nid ydym eisiau datgelu gormod, ond mae gan Nathan gynlluniau MAWR i greu portread o eicon amgylcheddol….
Dewch i’n stondin yn Rhodfa A i ailgylchu eich poteli plastig a gweld y gwaith celf arbennig hwn yn cael ei ffurfio.
Mae tocynnau ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru ar werth nawr (prisiau’n dechrau o £5 yn unig). Ewch i wefan Sioe Frenhinol Cymru am fwy o wybodaeth rwas.wales/royal-welsh.
Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld chi yno!