A A A

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol

02/08/2022 - 03/08/2022

I ddathlu ein 50 mlwyddiant, byddwn yn galw heibio i amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous yr haf hwn – o driathlonau i sinemâu awyr agored i farathonau a sioeau busnes. Rydym yn llawn cyffro i ddychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Mi fyddwn ni yn y digwyddiad ar y 2 a 3 o Awst, hoffwn ichi ymuno a chi.

Dydd Mawrth 19 Gorffennaf: #LleisiauTaclus yn meddiannu stondin Dŵr Cymru

Yn galw ar bawb sydd yn 15–25 oed! Mae’n amser dweud eich dweud ar yr amgylchedd.

Fel rhan o’n cenhadaeth i roi llais i bobl ifanc, byddwn yn meddiannu stondin Dŵr Cymru ar 2 Awst.

Bydd ein tîm #LleisiauTaclus yn annog ymwelwyr a’r y maes sydd yn 15-25 oed i gwblhau arolwg ynghylch sut dylem fod yn gofalu ar ôl yr amgylchedd. Byddwn hefyd yn cadw golwg am arweinwyr amgylcheddol y dyfodol i ymuno â’n Bwrdd Ieuenctid newydd sbon.

Dydd Mercher 3 Awst: Dathlu 50 mlynedd at stondin Sefydliad y Merched

Ynghyd a ffrindiau, partneriaid a cydweithwyr, mi fyddwn yn dathlu ein penblwydd 50 mlynedd oed ar stondin SyM lle wnaethom ddechrau nôl yn 1972, ac edrych yn ôl ar 50 mlynedd o weithio gyda gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol ac sefydliadau ar hyd Cymru.

Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld chi yno!