Mae ein cyrsiau ni i gyd yn cael eu darparu am ddim a’u hwyluso gan Staff profiadol Cadwch Gymru’n Daclus.
Cynhelir pob hyfforddiant rhithwir trwy Microsoft Teams. Gallwch ymuno trwy borwr gwe os nad yw Teams ar gael ar eich dyfais.
Mae ein hyfforddiant poblogaidd iawn sydd wedi ei sefydlu ers amser ar gyfer cydlynwyr newydd wedi cael ei drawsnewid yn sesiwn rithwir 2 ran ar gyfer y gwanwyn hwn. Bydd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn cynnwys cyfleoedd i rannu profiadau gyda chydlynwyr eraill.
Bydd sesiynau yn Gymraeg a Saesneg yn ogystal.
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o’r hyfforddiant, rydym wedi rhannu’r cynnwys yn 2 sesiwn. Bydd y gyntaf yn cynnwys yr Eco-Bwyllgor, Adolygiad Amgylcheddol, Cynlluniau gweithredu a mesur effaith. Bydd yr ail yn cynnwys cysylltu â’r cwricwlwm newydd, eco-gôd a gwneud cais am eich Baner Werdd a chael eich asesu ar ei chyfer. Bydd hysbysu a chynnwys yr ysgol gyfan yn cael ei gynnwys yn y ddwy sesiwn. Dylai’r cyfranogwyr ddewis dyddiad addas ar gyfer sesiwn 1 a sesiwn 2 wrth archebu lle (cofiwch sicrhau bod sesiwn 1 cyn sesiwn 2).