Mae Gwobrau Cymru Daclus, sydd yn dyddio’n ôl i 1990, yn anrhydeddu arwyr amgylcheddol – yr unigolion, grwpiau, ysgolion a busnesau sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i ofalu am ein gwlad hardd.
Mae’r enwebiadau wedi cau. Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae’r beirniadu ar y gweill ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda’n panel o arbenigwyr i asesu pob enwebiad.
Bydd unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu hysbysu erbyn diwedd Mawrth. Fe’u gwahoddir i fynychu seremoni Wobrwyo Cymru Daclus ar 19 Ebrill yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Yn ogystal â rhai o’n categorïau adnabyddus, eleni rydym wedi datblygu categorïau newydd i arddangos yr holl brosiectau arloesol, anhygoel sydd yn digwydd ar draws Cymru. Ceir deg Gwobr Cymru Daclus:
Y ddegfed wobr yw Gwobr Cyflawniad Eithriadol Cadwch Gymru’n Daclus. Mae’r wobr yn cydnabod y gorau o’r goreuon.
Bydd enillwyr bob un o’r naw categori arall yn cael eu hystyried a dewisir un enillydd cyffredinol.
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn canol dydd ar ddydd Llun 6 Mawrth. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.
Bydd rhestr fer o’r enwebiadau’n cael ei chreu gan staff Cadwch Gymru’n Daclus erbyn diwedd Mawrth.
Bydd yr ymgeiswyr terfynol yn cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr yn cynnwys staff Cadwch Gymru’n Daclus, ymddiriedolwyr, a noddwyr Gwobrau Cymru Daclus. Gyda’i gilydd, byddant yn dewis yr enillwyr.
Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu hysbysu os ydynt wedi cael eu cynnwys ar y rhestr fer erbyn 30 Mawrth 2023.
Ni fydd unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â’r ymgeiswyr terfynol sydd wedi cael eu dewis.
Bydd hawlfraint y ceisiadau a’r holl wybodaeth amgaeëdig (yn cynnwys delweddau, fideos a negeseuon llais) yn aros gyda’r ymgeisydd, ond mae’r ymgeisydd yn rhoi caniatâd i Cadwch Gymru’n Daclus ddefnyddio’r wybodaeth yma i hyrwyddo Cadwch Gymru’n Daclus a Gwobrau Cymru Daclus ar draws ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol ac mewn unrhyw gyhoeddiad cysylltiedig yn y wasg a’r cyfryngau.
Bydd holl wybodaeth yr ymgeiswyr yn cael ei chadw yn unol â Pholisi Preifatrwydd Cadwch Gymru’n Daclus, ac mae copi o hwn ar gael yma.
Cysylltwch â’r tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach. Anfonwch ebost atom twa@keepwalestidy.cymru neu ffoniwch ni ar 07469 118914.