A A A

A wyddoch chi fod un mewn chwe rhywogaeth yng Nghymru o dan fygythiad?

Mae’n ystadegyn brawychus, ond y newyddion da yw bod miloedd o bobl ar draws y wlad yn benderfynol o atal dirywiad natur.

Rydym eisiau dathlu Arwyr Natur yng Ngwobrau Cymru Daclus.

Gall fod yn unigolyn â chenhadaeth i ddileu rhywogaeth ymledol neu berchennog tir yn adfer coedwrych. Efallai fod grŵp cymunedol wedi creu cynefin bywyd gwyllt newydd. Neu fod sefydliad wedi gwella ei arferion rheoli tir ar gyfer peillwyr.

Wrth gwrs, mae’r amgylchedd naturiol yn darparu hafan i bobl hefyd. Hoffem glywed gan brosiectau sydd hefyd wedi hybu lles ein cymunedau yn arbennig.

Gyda diolch i noddwr y categori Trafnidiaeth Cymru.

Gwybodaeth angenrheidiol

Mae’r categori hwn ar agor i unrhyw un wneud cais.

  • Beth yw’r prosiect / gwaith?
  • Pwy sy’n gyfrifol am ei gyflawni? Dywedwch ychydig bach wrthym am y person yr ydych yn eu henwebu.
  • Sut mae’r prosiect / gwaith hwn wedi cael ei gyflawni? Pa gamau a gymerwyd? Pa syniadau newydd sydd wedi cael eu rhoi ar waith?
  • Rhowch dystiolaeth o’r prosiect / gwaith a wnaed.
  • Rhowch dystiolaeth o’r effaith. Sut mae gwaith y prosiect wedi helpu i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff? Sut mae natur wedi elwa? Sut mae’r prosiect wedi cynnwys staff / gwirfoddolwyr? Sut mae wedi newid ymddygiad? A yw’r syniad wedi cael ei gopïo gan eraill?
  • Pa fesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith (os o gwbl) i sicrhau bod y prosiect / gwaith yn cael ei gynnal ar gyfer y dyfodol?
  • Unrhyw wybodaeth sydd gennych am fudd y prosiect / gwaith i’r gymuned ehangach. Gall hyn gynnwys lle mae’r prosiect / gwaith wedi dod â’r gymuned ynghyd, wedi gwella balchder cymunedol, wedi dysgu sgiliau newydd a chefnogi iechyd a lles y gymuned leol. Rhowch adborth gan y gymuned lle y bo’n bosibl.
  • Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.

Sut i enwebu

Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

Os yw’n haws, gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom ar ebost neu drwy’r post. Mae’r manylion ar y ffurflen.

Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.

Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru

Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 21 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.