Mae tua 90% o ysgolion yng Nghymru yn rhan o Eco-Sgolion, y rhaglen addysg fwyaf ar y blaned. Bob dydd, mae disgyblion yn gwneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach.
Mae’r wobr hon yn dathlu’r prosiectau amgylcheddol mwyaf arloesol sydd yn digwydd yn Eco-Sgolion Cymru.
Rydym eisiau annog staff mewn ysgolion i enwebu eu dysgwyr. Byddem wrth ein bodd yn clywed am Eco-bwyllgorau neu glybiau sydd wedi meddwl am ffyrdd ysbrydoledig o fynd i’r afael â materion amgylcheddol pwysig.
Efallai eu bod wedi ymuno â busnesau lleol i leihau plastigau untro. Efallai eu bod wedi cysylltu ag ysgol mewn gwlad arall i ddatblygu ymgyrch. Neu efallai eu bod wedi sefydlu system gyffrous o gyfnewid gwisg ysgol a dillad eraill sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd yn yr ardal leol.
Gyda diolch i noddwr y categori Second Life Products Wales Ltd.
Mae’r categori hwn ar agor i unrhyw ysgolion yng Nghymru sydd yn gysylltiedig â’r rhaglen Eco-Sgolion.
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom ar ebost neu drwy’r post. Mae’r manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn canol dydd ar 21 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.