A A A

Gyda chost amgylcheddol cynhyrchu’n cynyddu, mae’n hanfodol ein bod yn symud i economi gylchol – lle mae gwastraff yn cael ei osgoi, a deunyddiau a chynnyrch presennol yn cael eu defnyddio a’u hailddefnyddio cyhyd â phosibl.

Rydym yn chwilio am grwpiau, ysgolion a sefydliadau sydd wedi creu ffyrdd newydd ac arloesol o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio.

Mae’r categori hwn ar agor i grwpiau cymunedol, ysgolion, sefydliadau nid-er-elw, busnesau ac awdurdodau lleol.

Gwybodaeth angenrheidiol

  • Beth yw’r prosiect / gwaith?
  • Pwy sy’n gyfrifol am ei gyflawni? Dywedwch ychydig bach wrthym am y person yr ydych yn eu henwebu.
  • Sut mae’r prosiect / gwaith hwn wedi cael ei gyflawni? Pa gamau a gymerwyd? Pa syniadau newydd sydd wedi cael eu rhoi ar waith?
  • Rhowch dystiolaeth o’r prosiect / gwaith a wnaed.
  • Rhowch dystiolaeth o’r effaith. Sut mae gwaith y prosiect wedi helpu i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff? Sut mae natur wedi elwa? Sut mae’r prosiect wedi cynnwys staff / gwirfoddolwyr? Sut mae wedi newid ymddygiad? A yw’r syniad wedi cael ei gopïo gan eraill?
  • Pa fesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith (os o gwbl) i sicrhau bod y prosiect / gwaith yn cael ei gynnal ar gyfer y dyfodol?
  • Unrhyw wybodaeth sydd gennych am fudd y prosiect / gwaith i’r gymuned ehangach. Gall hyn gynnwys lle mae’r prosiect / gwaith wedi dod â’r gymuned ynghyd, wedi gwella balchder cymunedol, wedi dysgu sgiliau newydd a chefnogi iechyd a lles y gymuned leol. Rhowch adborth gan y gymuned lle y bo’n bosibl.
  • Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.

Ffurflen enwebiad

1. Gategori’r wobr

2. Eich manylion

3. Manylion y person neu’r sefydliad yr ydych yn ei enwebu

4. Eich enwebiad

Lanlwythwch ddau lun diweddar neu ychwanegwch ddolen i gefnogi eich enwebiad.

5. Preifatrwydd

Bydd panel o arbenigwyr yn cynnwys staff Cadwch Gymru’n Daclus, ymddiriedolwyr a noddwyr Gwobrau Cymru Daclus yn asesu’r holl enwebiadau.

Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd rhiant / gwarcheidwad i gyflwyno enwebiad os ydych o dan 18 neu os yw’r person(au) yr ydych yn eu henwebu o dan 18. Dylai’r caniatâd hwn gynnwys defnyddio enw(au), gweithgaredd ac unrhyw ddelweddau a ddefnyddir yn y cais.

Rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ond yn cael ei defnyddio at ddibenion Gwobrau Cymru Daclus. Chi sy’n rheoli’r sefyllfa bob amser. Am fwy o wybodaeth ewch i’n Polisi Preifatrwydd.