A A A

Yn fwy nag erioed, mae busnesau yng Nghymru’n sylweddoli’r rôl sydd ganddynt yn mynd i’r afael â sbwriel a gwastraff.

Mae’r wobr hon yn cydnabod sefydliadau a busnesau sydd wedi dangos eu cariad tuag at Gymru trwy helpu i gadw eu hamgylchedd lleol yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar.

Rydym yn chwilio am sefydliadau a busnesau sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau a thu hwnt i’w dyletswyddau statudol. Gallai hyn olygu glanhau yn y gymuned ehangach, lleihau gwastraff sydd yn cael ei greu gan staff a chwsmeriaid, neu hyd yn oed lleihau allyriadau carbon.

Gyda diolch i noddwr y categori Berry Global.

Gwybodaeth angenrheidiol

Mae’r categori hwn ar agor i unrhyw sefydliad a busnes.

  • Beth yw’r prosiect / gwaith?
  • Pwy sy’n gyfrifol am ei gyflawni? Dywedwch ychydig bach wrthym am y person yr ydych yn eu henwebu.
  • Sut mae’r prosiect / gwaith hwn wedi cael ei gyflawni? Pa gamau a gymerwyd? Pa syniadau newydd sydd wedi cael eu rhoi ar waith?
  • Rhowch dystiolaeth o’r prosiect / gwaith a wnaed.
  • Rhowch dystiolaeth o’r effaith. Sut mae gwaith y prosiect wedi helpu i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff? Sut mae natur wedi elwa? Sut mae’r prosiect wedi cynnwys staff / gwirfoddolwyr? Sut mae wedi newid ymddygiad? A yw’r syniad wedi cael ei gopïo gan eraill?
  • Pa fesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith (os o gwbl) i sicrhau bod y prosiect / gwaith yn cael ei gynnal ar gyfer y dyfodol?
  • Unrhyw wybodaeth sydd gennych am fudd y prosiect / gwaith i’r gymuned ehangach. Gall hyn gynnwys lle mae’r prosiect / gwaith wedi dod â’r gymuned ynghyd, wedi gwella balchder cymunedol, wedi dysgu sgiliau newydd a chefnogi iechyd a lles y gymuned leol. Rhowch adborth gan y gymuned lle y bo’n bosibl.
  • Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.

Sut i enwebu

Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

Os yw’n haws, gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom ar ebost neu drwy’r post. Mae’r manylion ar y ffurflen.

Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.

Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru

Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 21 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.