Am y wobr
Mae’r beirniaid yn chwilio am rywun sydd yn dangos angerdd, ymrwymiad, a chanlyniadau gwirioneddol mewn meysydd fel cadwraeth, ymgysylltu cymunedol, neu addysg amgylcheddol.
Rydym eisiau clywed am unigolion sydd yn ysgogi gweithredu, p’un ai’n gweithio ar eu pen eu hunain neu’n ysbrydoli eraill i ymuno â nhw.
Gwybodaeth ofynnol
Mae’r wobr hon ar gyfer gwirfoddolwyr unigol yn unig.
Eisiau enwebu rhywun o dan 25 oed? Ewch i’r categori Gwirfoddolwr / Gwirfoddolwyr Ifanc y Flwyddyn.
Ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:
- Pa weithgareddau amgylcheddol ydych chi wedi eu gwneud?
- Pa mor aml?
- Pa effaith mae’r gwaith wedi ei gael? Er enghraifft, faint o sbwriel a godwyd, y bwyd sy’n cael ei dyfu neu faint o goed sydd wedi cael eu plannu.
Sut mae’r gweithgareddau wedi ysbrydoli pobl eraill i weithredu? Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.
Cyflwyno'ch enwebiad
Mae enwebiadau wedi cau.
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar WhatsApp i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar WhatsApp neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.
Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu
Cysylltwch â ni
Angen help gyda’ch enwebiad? Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm.







