Mae ein planed yn wynebu argyfwng hinsawdd byd-eang. Mae’r tymheredd yn codi, ac felly hefyd lefelau’r môr, gan roi natur a bodau dynol mewn perygl enfawr.
Ond ynghanol yr argyfwng hwn, mae yna falchder gobaith: Pobl ifanc anhygoel Cymru sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i adeiladu byd gwell, mwy cynaliadwy.
Ledled y wlad, mae pobl ifanc yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Nid yn unig maen nhw’n arwain trwy esiampl yn eu cymunedau trwy afael mewn codwr sbwriel neu gwpan y gellir ei ailddefnyddio; mae’r unigolion ysbrydoledig hyn hefyd yn estyn am eu camerâu, ffonau a gliniaduron i hyrwyddo ymgyrchoedd ar-lein sy’n sbarduno sgwrs ac yn annog gweithredu cynaliadwy.
Rydyn ni eisiau clywed am y bobl ifanc hyn a’r gwaith maen nhw’n ei wneud.
Gyda diolch i noddwr y categori Blake Morgan LLP.
Mae’r categori hwn yn agored i unrhyw un rhwng 11 a 25 mlwydd oed.
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom ar ebost neu drwy’r post. Mae’r manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 21 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.