Ni ddylid diystyru pwysigrwydd mannau glân, gwyrdd a diogel. Maent yn chwarae rôl hanfodol yn iechyd a hapusrwydd pobl, yn ogystal â chryfder ein cymunedau.

Mae’r wobr hon yn cydnabod prosiectau sydd wedi trawsnewid ardaloedd segur neu wedi dirywio yn fannau cymunedol sy’n ffynnu.

Rydym eisiau clywed am brosiectau trawsnewid o bob math a maint. Gallai parc newydd fod wedi cael ei greu ar dir sydd wedi tyfu’n wyllt. Efallai fod gardd drefol wedi cael ei chreu mewn lôn segur. Neu efallai fod llwybr wedi cael ei adfer a’i wneud yn gwbl hygyrch.

Mae’n ymwneud â dathlu’r ffordd y mae’r prosiectau hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.

Mae’r categori hwn ar agor i unrhyw un i wneud cais.

Gyda diolch i noddwr y categori DS Smith.

Child planting a tree sapling

Gwybodaeth angenrheidiol

  • Beth yw’r prosiect / gwaith?
  • Pwy sy’n gyfrifol am ei gyflawni? Dywedwch ychydig bach wrthym am y person yr ydych yn eu henwebu.
  • Sut mae’r prosiect / gwaith hwn wedi cael ei gyflawni? Pa gamau a gymerwyd? Pa syniadau newydd sydd wedi cael eu rhoi ar waith?
  • Rhowch dystiolaeth o’r prosiect / gwaith a wnaed.
  • Rhowch dystiolaeth o’r effaith. Sut mae gwaith y prosiect wedi helpu i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff? Sut mae natur wedi elwa? Sut mae’r prosiect wedi cynnwys staff / gwirfoddolwyr? Sut mae wedi newid ymddygiad? A yw’r syniad wedi cael ei gopïo gan eraill?
  • Pa fesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith (os o gwbl) i sicrhau bod y prosiect / gwaith yn cael ei gynnal ar gyfer y dyfodol?
  • Unrhyw wybodaeth sydd gennych am fudd y prosiect / gwaith i’r gymuned ehangach. Gall hyn gynnwys lle mae’r prosiect / gwaith wedi dod â’r gymuned ynghyd, wedi gwella balchder cymunedol, wedi dysgu sgiliau newydd a chefnogi iechyd a lles y gymuned leol. Rhowch adborth gan y gymuned lle y bo’n bosibl.
  • Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.

Ffurflen enwebiad

1. Gategori’r wobr

2. Eich manylion

3. Manylion y person neu’r sefydliad yr ydych yn ei enwebu

4. Eich enwebiad

Lanlwythwch ddau lun diweddar neu ychwanegwch ddolen i gefnogi eich enwebiad.

5. Preifatrwydd

Bydd panel o arbenigwyr yn cynnwys staff Cadwch Gymru’n Daclus, ymddiriedolwyr a noddwyr Gwobrau Cymru Daclus yn asesu’r holl enwebiadau.

Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd rhiant / gwarcheidwad i gyflwyno enwebiad os ydych o dan 18 neu os yw’r person(au) yr ydych yn eu henwebu o dan 18. Dylai’r caniatâd hwn gynnwys defnyddio enw(au), gweithgaredd ac unrhyw ddelweddau a ddefnyddir yn y cais.

Rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ond yn cael ei defnyddio at ddibenion Gwobrau Cymru Daclus. Chi sy’n rheoli’r sefyllfa bob amser. Am fwy o wybodaeth ewch i’n Polisi Preifatrwydd.

Os yw’n haws, gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom ar ebost neu drwy’r post. Mae’r manylion ar y ffurflen.

Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Gellir anfon nodiadau llais ar WhatsApp i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar WhatsApp neu ar ebost.

Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru

Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.