Yng nghanol pryderon am newid hinsawdd a’r economi fyd-eang fregus, rydym wedi gweld cynnydd yn y bobl sydd yn tyfu eu ffrwythau, eu llysiau a’u perlysiau eu hunain.
Rydym eisiau arddangos y prosiectau tyfu bwyd cymunedol gorau ar draws Cymru.
Rydym yn chwilio am brosiectau tyfu bwyd sydd wedi helpu cymunedau i fod yn fwy cynaliadwy a chydnerth.
Gallai fod yn brosiect sy’n cyflenwi cynnyrch ffres i fanciau bwyd neu geginau cymunedol lleol. Gallai fod yn berllan gymunedol lle mae’r preswylwyr yn cael eu hannog i ‘gasglu eich hun’ i roi hwb i’w hiechyd a’u lles. Neu gallai fod yn fenter sy’n addysgu pobl sut i ofalu am eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain a’u cynaeafu.
Gyda diolch i noddwr y categori The Moondance Foundation.
Mae’r categori hwn ar agor i unrhyw un wneud cais.
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom ar ebost neu drwy’r post. Mae’r manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 21 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.