A A A

Polisi Preifatrwydd Cadwch Gymru’n Daclus

Rydym yn ystyried materion yn ymwneud â’ch data personol yn ddifrifol. Ein Rheolwr Diogelu Data yw Philippa McGrath a dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau ati hi.

Cofrestr diogelu data
Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU. Ein rhif cofrestru diogelu data yw Z2641703.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr ein gwefan a defnyddwyr ein gwasanaeth. Diben y Polisi hwn yw esbonio mwy i chi am y ffordd yr ydym yn ymdrin â’ch data personol.

Yr hyn y mae termau amrywiol yn ei olygu?
Mae “data personol” yn golygu gwybodaeth wedi ei chofnodi yr ydym yn ei chasglu, ei storio neu ei chadw amdanoch chi er mwyn gallu eich adnabod chi neu berson arall. Mae’n cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) y canlynol:

  • Manylion cyswllt personol fel enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn, a chyfeiriadau e-bost personol neu gyfeiriadau e-bost cwmni os ydych yn gweithio i sefydliad
  • Dyddiad geni.

Sut caiff data personol ei gasglu?
Rydych wedi rhoi’r data i ni. Nid ydym yn prynu data personol i mewn at ddibenion marchnata.

Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol?
Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny.

Bydd gwybodaeth bersonol a roddir i ni yn cael ei defnyddio at y dibenion a amlinellwyd ar adeg ei chasglu neu gofrestru yn unol â’r dewisiadau yr ydych yn eu mynegi.

Yn gyffredinol, nid ydym yn rhannu gwybodaeth ond os gwnawn hynny, byddwn yn rhoi gwybod ichi wrth goladu’r wybodaeth ac ar yr adeg y byddant ar gael. Byddwn hefyd yn rhoi manylion llawn sut ac at ba bwrpas y bydd yn cael ei rannu – er enghraifft sicrhau bod manylion cyswllt grwpiau gwirfoddol ar gael i’r cyhoedd os cytunir.

Beth os oes newid diben?
Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol bod ei hangen arnom am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n cyd-fynd â’r diben gwreiddiol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data?
Byddwn yn cadw eich data yn ddiogel, er mwyn i ni allu sicrhau eich bod yn derbyn y gwasanaeth yr ydych wedi gwneud cais amdano gennym ni.

Proffil Data
Gallwn brosesu eich gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn ein proffil personol ar ein gwefan. Gall y data proffil hwn gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost. Gellir prosesu’r data proffil at ddibenion galluogi a monitro eich defnydd o’n gwefan a’n gwasanaethau. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cydsyniad neu fuddiannau dilys.

Rhoi eich manylion personol i bobl eraill
Ni fyddwn yn datgelu eich data personol i drydydd parti heb eich cydsyniad. Caiff trafodion ariannol yn ymwneud â’n gwefan a’n gwasanaethau eu trin gan ein darparwyr gwasanaethau talu (Stripe, Go Cardless). Byddwn yn rhannu data trafodion gyda’n darparwyr gwasanaethau talu i’r graddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer prosesu eich taliadau, ad-dalu taliadau o’r fath, ac ymdrin â chwynion ac ymholiadau’n ymwneud â thaliadau ac ad-daliadau yn unig.

Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i wneud eich profiad o’n gwefan cystal â phosibl. Mae cwci yn ffeil sydd yn cynnwys adnabyddwr (rhestr o lythrennau a rhifau) a anfonir o weinydd i borwr a chaiff ei storio gan y porwr. Caiff yr adnabyddwr wedyn ei anfon yn ôl at y gweinydd bob tro y mae’r porwr yn gwneud cais am dudalen gan y gweinydd. Os ydych yn anghyfforddus yn defnyddio cwcis, gallwch eu hanalluogi ar eich cyfrifiadur trwy newid y gosodiadau yn y dewisiadau neu’r ddewislen opsiynau yn eich porwr.

Pa hawliau sydd gennyf?
Eich dyletswydd i’n hysbysu ynghylch newidiadau
Mae’n bwysig bod y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi yn gywir ac yn gyfredol. Hysbyswch ni os yw eich gwybodaeth bersonol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

Gallwch ysgrifennu atom yn Cadwch Gymru’n Daclus, Sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ, e-bost info@keepwalestidy.cymru.

Eich hawliau mewn cysylltiad â gwybodaeth bersonol
O dan rhai amgylchiadau, yn ôl y gyfraith mae gennych hawl:

  • I wneud cais am fynediad i’ch gwybodaeth bersonol (a elwir yn “gais am fynediad i destun data”). Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithiol.
  • I wneud cais i gywiro’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gael unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi wedi ei chywiro.
  • I wneud cais i ddileu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu eich gwybodaeth bersonol allan os nad oes unrhyw reswm da dros barhau i’w phrosesu. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni roi’r gorau i brosesu gwybodaeth bersonol os ydym yn dibynnu ar fudd dilys ac mae rhywbeth am eich sefyllfa sydd yn gwneud i chi wrthwynebu i brosesu ar y sail yma.
  • I wneud cais i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal y broses o brosesu eich gwybodaeth bersonol amdanoch chi, er enghraifft os ydych eisiau i ni sefydlu ei chywirdeb neu’r rheswm dros ei phrosesu.
  • I wneud cais i drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i barti arall.

Os ydych eisiau adolygu, dilysu, cywiro neu wneud cais i ddileu eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu i brosesu eich data personol, neu wneud cais i ni drosglwyddo copi o’ch gwybodaeth bersonol i barti arall, cysylltwch â ni yn info@keepwalestidy.cymru.

Nid oes angen ffi fel arfer
Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol (nac ymarfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, gallwn godi ffi resymol os nad yw’n amlwg nad oes sail i’ch cais neu ei fod yn eithafol. Neu, gallwn wrthod cydymffurfio â’r cais mewn amgylchiadau o’r fath.

Yr hyn y gallwn fod ei angen gennych chi
Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol oddi wrthych chi i’n helpu i gadarnhau eich hunaniaeth a sicrhau eich hawl i gael mynediad i’r wybodaeth (neu i ymarfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch priodol arall er mwyn sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i unrhyw berson sydd heb hawl i’w derbyn.

Hawl i dynnu cydsyniad yn ôl
Mewn amgylchiadau cyfyngedig pan fyddwch wedi cydsynio i gasglu, prosesu a throsglwyddo eich gwybodaeth bersonol at ddiben penodol, mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar gyfer y prosesu penodol hwnnw unrhyw bryd. I dynnu eich cydsyniad yn ôl, cysylltwch â ni. Unwaith y byddwn wedi derbyn hysbysiad eich bod wedi tynnu eich cydsyniad yn ôl, ni fyddwn bellach yn prosesu eich gwybodaeth at y diben neu’r dibenion y gwnaethoch gytuno iddynt yn wreiddiol, oni bai bod gennym sail ddilys arall dros wneud hynny yn gyfreithiol.

Cwynion
Os oes gennych gŵyn amdanom ni neu’r ffordd yr ydym yn trin eich data, gallwch gysylltu â’r Comisiwn Elusennau. Y Comisiwn Elusennau yw’r corff gwarchod annibynnol ar gyfer elusennau. Eu gwefan yw www.charity-commission.gov.uk.

Os oes gennych gŵyn am ein gweithgareddau codi arian, gallwch hefyd gwyno i’r Bwrdd Safonau Codi Arian (FRSB) yn www.givewithconfidence.org.uk.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn cadw’r hawl i ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn unrhyw bryd, a byddwn yn rhoi hysbysiad preifatrwydd newydd i chi pan fyddwn yn gwneud unrhyw ddiweddariadau sylweddol. Gallwn hefyd eich hysbysu mewn ffyrdd eraill o bryd i’w gilydd yn ymwneud â phrosesu eich gwybodaeth bersonol.

Cafodd y polisi hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Gorfennaf 2019.