Pam siopa gyda Cadwch Gymru’n Daclus?
Fel pob elusen, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd. Felly, bydd yr holl elw o’n siop yn mynd yn ôl i helpu cymunedau i ofalu am eu hamgylcheddau lleol.
Diolch i gwsmeriaid fel chi, rydym yn gallau parhau â’n cenhadaeth am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Mae ein prif swyddfa yn dal ar gau, felly yn anffodus, dim on archebion ar gyfer cyfarpar codi sbwriel yr ydym yn gallu eu prosesu ar hyn o bryd. Cysylltwch ag info@keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth.
Showing all 16 results
Nodweddion y bag offer
Mae eich Handi Cart Duo NEWYDD yn helpu i wahanu sbwriel – sydd yn newid y ffordd yr ydym yn rheoli ac yn casglu sbwriel, gan ddatblygu arferion gwaith gwell.
Mae’r Handi Cart Lite NEWYDD yn gydymaith sbwriel perffaith – yr ateb ysgafn, symudol ar gyfer casglu sbwriel yn haws.
Codwr sbwriel swyddogol Cadwch Gymru’n Daclus!
Nodweddion y codwr sbwriel: 35″ o hyd, dolen grom ar gyfer cyfnodau hir o lanhau
Wedi ei ddylunio yn arbennig i blant ac yn dod â Chodi Sbwriel yn fyw, mae gan Godwr Sbwriel Graptor i Blant ddelwedd draig fel rhan o’r dyluniad.
Mae gafaelwr y codwr sbwriel plygadwy yn ysgafn iawn o ran dyluniad ac yn 100% ailddefnyddiadwy – gyda chydrannau glân y gellir eu sychu – sydd yn wych ar gyfer codi sbwriel wrth fynd ar eich pen eich hun.
Mae’r codwr sbwriel hwn yn ddelfrydol ar gyfer casglu sbwriel cyffredinol – mae’r cyrhaeddiad ychwanegol yn addas ar gyfer dyfrffyrdd, coedwrych a lleoliadau anodd eu cyrraedd.
Mae’r Handicart Duo NEWYDD yn helpu i wahanu sbwriel – gan ysgogi newid ymddygiad o ran y ffordd yr ydym yn rheoli ac yn casglu sbwriel; gan ddatblygu arferion gwaith gwell.
Handicart Lite NEWYDD yw eich cydymaith codi sbwriel perffaith – ateb symudol, ysgafn ar gyfer casglu sbwriel yn haws.
Cyfaill gorau’r codwr sbwriel, mae’r agorwr sachau, Handihoop, yn ddefnyddiol iawn os ydych yn cynnal ymgyrch glanhau.
Menig PVC Oedolion – diogelu’r dwylo dro ar ôl tro, maint oedolyn safonol, band garddwrn wedi ei wau o wlân a PVC trwm amddiffynnol ar gyfer eich dwylo.
Mae menig gwydn maint plant yn diogelu dwylo bach – gellir eu defnyddio hefyd ar gyfer gweithgareddau garddio yn ogystal â chodi sbwriel. Deunydd cotwm trwm, yn ddelfrydol ar gyfer plant 6-11 oed.
Mae’r pecyn hwn yn addas ar gyfer 10 o bobl.
Mae siacedi llachar oedolion yn cwblhau eich cyfarpar PPE.
Mae bod yn weladwy yn rhan bwysig iawn o godi sbwriel, i bobl o bob oed.
Mae sawl ffordd hawdd o godi arian hanfodol am ddim cost ychwanegol i chi. Gallwch ein cefnogi tra’n siopa ar-lein neu allan ar hyd y lle.
Siopa ar Amazon? Newidiwch i www.smile.amazon.com! Mae’n cynnig yr un cynnyrch, prisiau a gwasanaeth, ond os byddwch yn ein dewis ni fel eich elusen ddewisol, bydd Amazon yn cyfrannu 0.5% o gyfanswm y pryniant.
Gall pawb gael effaith gydag eBay. Ewch i’n siop elusen eBay lle gallwch ddewis rhoi cyfraniad untro, gwerthu eitemau, neu ddod yn werthwr uniongyrchol.
Oes gennych chi gerdyn aelodaeth Co-op? Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein lle gallwch ein dewis ni fel eich achos cymunedol.
Ymunwch â giveasyoulive.com am ddim, dewiswch Cadwch Gymru’n Daclus a chodi arian tra’n siopa mewn dros 4,500 o siopau blaenllaw.