Pam siopa gyda Cadwch Gymru’n Daclus?
Fel pob elusen, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd. Felly, bydd yr holl elw o’n siop yn mynd yn ôl i helpu cymunedau i ofalu am eu hamgylcheddau lleol.
Diolch i gwsmeriaid fel chi, rydym yn gallau parhau â’n cenhadaeth am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Mae sawl ffordd hawdd o godi arian hanfodol am ddim cost ychwanegol i chi. Gallwch ein cefnogi tra’n siopa ar-lein neu allan ar hyd y lle.
Siopa ar Amazon? Newidiwch i www.smile.amazon.com! Mae’n cynnig yr un cynnyrch, prisiau a gwasanaeth, ond os byddwch yn ein dewis ni fel eich elusen ddewisol, bydd Amazon yn cyfrannu 0.5% o gyfanswm y pryniant.
Gall pawb gael effaith gydag eBay. Ewch i’n siop elusen eBay lle gallwch ddewis rhoi cyfraniad untro, gwerthu eitemau, neu ddod yn werthwr uniongyrchol.
Ymunwch â giveasyoulive.com am ddim, dewiswch Cadwch Gymru’n Daclus a chodi arian tra’n siopa mewn dros 4,500 o siopau blaenllaw.
Oes gennych chi gerdyn aelodaeth Co-op? Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein lle gallwch ein dewis ni fel eich achos cymunedol.