Diwetharu Medi 2017
Lawrlwythiwch y Telerau ac Amodau
Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn ymwneud â Chadwch Gymru’n Daclus, elusen a chwmni preifat cyfyngedig trwy warant. Ein swyddfa gofrestredig yw Sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ. Rhif ein Cwmni yw 4011164 a’n Rhif Cofrestru Elusen yw 1082058.
Trwy ddefnyddio Gwefan Cadwch Gymru’n Daclus rydych yn cytuno i’r Telerau ac Amodau sy’n ei llywodraethu.
Mae eich mynediad i Wefan Cadwch Gymru’n Daclus a’ch defnydd ohoni yn amodol arnoch chi’n derbyn a chydymffurfio â’r Telerau hyn. Mae’r Telerau hyn yn berthnasol i bob ymwelydd, defnyddiwr ac eraill sydd yn cael mynediad i Wefan Cadwch Gymru’n Daclus neu yn ei defnyddio.
Os ydych yn anghytuno gydag unrhyw ran o’r Telerau, ni ddylech fynd i mewn i Wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Ni allwn warantu cywirdeb, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth a’r deunydd ar ein Gwefan. Fel defnyddiwr, eich cyfrifoldeb chi yw cydnabod y gallai anghywirdeb ymddangos neu y gallai gwallau fodoli ac nid ydym yn atebol am unrhyw faterion o’r fath i’r graddau eithaf a ganiateir yn ôl y gyfraith.
Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth ar ein gwefan yn ôl eich menter eich hun ac ni fyddwn ni yn atebol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a gymerir neu bydd ar gael trwy ein gwefan yn bodloni eich gofynion penodol.
Os byddwch yn defnyddio ein gwefan mewn ffordd ddiawdurdod, gall hyn arwain at hawlio niwed a gallai fod yn drosedd.
Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu niwed i’ch data na’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra’n defnyddio deunydd sydd yn deillio o’n gwefan.
Rydym yn gwneud ymdrech i greu holl ddeunydd ein gwefan yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, weithiau bydd rhai eitemau, oherwydd amser, cyfyngiadau ariannol neu gyfyngiadau eraill, ond ar gael yn Saesneg i ddechrau. Am fwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â comms@keepwalestidy.cymru
Hawlfraint Mae cynnwys Gwefan Cadwch Gymru’n Daclus yn eiddo i Gadwch Gymru’n Daclus neu eu darparwyr technoleg. Fel defnyddwyr Gwefan Cadwch Gymru’n Daclus, rydych yn cytuno i beidio newid cynnwys y safle, copïo’r safle at eich defnydd eich hun ac ond defnyddio cynnwys y safle at eich diben cyfyngedig eich hun. Gwaherddir atgynhyrchu.
Preifatrwydd Os byddwch yn rhannu gwybodaeth gyda ni, ni fyddwn yn ei datgelu i unrhyw drydydd parti.
Bydd y wybodaeth ond yn cael ei defnyddio at ofynion Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid, i fodloni unrhyw ofynion cyfreithiol ac i ateb eich ymholiadau.
Dolenni i Safleoedd Gwe Eraill Mae ein Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd partïon nad ydynt yn berchen i Gadwch Gymru’n Daclus nac yn cael eu rheoli gennym.
Nid oes gan Gadwch Gymru’n Daclus unrhyw reolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd nac arferion unrhyw wefannau trydydd parti ac nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt.
Nid yw dolenni o’r fath yn arwydd ein bod yn ardystio’r gwefannau hyn.
Dylech gydnabod a chytuno na fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn gyfrifol nac yn atebol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, am unrhyw niwed neu golled a achoswyd neu yr honnir ei fod wedi ei achosi gan neu mewn cysylltiad â defnydd o unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau o’r fath sydd ar gael trwy unrhyw wefan o’r fath, na dibyniaeth arnynt.
Mae ein telerau ac amodau ond yn berthnasol i’n gwefan ni a gall fod gan wefannau trydydd parti eu telerau penodol eu hunain y dylech eu hadolygu cyn parhau.
Newidiadau Rydym yn cadw’r hawl, yn ôl ein disgresiwn unigol ni, i addasu neu ddisodli’r Telerau hyn ar unrhyw adeg. Os bydd diwygiad yn berthnasol, byddwn yn ceisio rhoi rhybudd cyn i unrhyw delerau newydd ddod i rym. Bydd yr hyn sy’n golygu newid perthnasol yn cael ei bennu yn ôl ein disgresiwn unigol ni.
Cysylltu â Ni Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Telerau hyn, cysylltwch â ni yn info@keepwalestidy.cymru