Mae tîm Eco-Sgolion Cymru yn gyffrous i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn her ysgolion arloesol ledled Cymru, ysbrydolwyd gan Wobr Earthshot a’i redeg mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Y dyddiad cau yw 18.00 ddydd Gwener 11 Ebrill a gwahoddir y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol i ddigwyddiad mawreddog yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2025.
Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu dros 20 miliwn o blant ar draws mwy na 100 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysgol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.
Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio trwy saith cam. Unwaith y mae ysgol wedi sefydlu’r broses hon ac wedi casglu tystiolaeth o’u cynnydd, gallant wneud cais am Wobr Eco-Sgolion – achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Rydym eisiau ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol.
Mae ein hadnoddau di-dâl wedi’u dylunio gan ein tîm addysg arbenigol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd a theuluoedd.
Mae ein hadnoddau ar gyfer ysgolion cynradd wedi’u dylunio i gyflwyno dysgwyr ifanc i rai o’r materion amgylcheddol mwyaf pwysig sy’n wynebu Cymru a’r byd.
Mae gennym ystod eang o adnoddau uwchradd sydd wedi’u dylunio i ysbrydoli myfyrwyr i weithredu ac mae pob un o’r adnoddau hyn wedi’u cysylltu â Chwricwlwm Cymru.
Gwaith cartref gwahanol! Creu eco-gartref gyda heriau hwyliog i’r teulu cyfan.
Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Gallwch gymryd rhan mewn ymgyrch, ymuno â gwers am ddim, a dal i fyny â hyfforddiant diweddar.