Ymchwilio bioamrywiaeth a bywyd gwyllt ar safle ein hysgol er mwyn defnyddio’r canfyddiadau fel tystiolaeth i wella’r ardal a lleihau sbwriel ynddi gan godi ymwybyddiaeth o’i effaith ar gynefinoedd y creaduriaid sy’n byw yno.
Er mwyn cyrraedd y targed hwn, gosododd y grŵp Eco gamera gweld yn y nos ar safle’r ysgol er mwyn darganfod pa fywyd gwyllt sy’n byw ar y safle. Gwnaethom gynnwys yr ysgol gyfan drwy wneud fideo o’r tystiolaeth, gan ychwanegu dyfyniadau o’r athrawon yn sôn am fioamrywiaeth ar safle ein hysgol a pha mor bwysig yw hi i warchod hyn. Daethom o hyd i dystiolaeth o foch daear, llwynogod, ystlumod ynghyd â lluniau o rywogaethau eraill yr oedd yr aelodau wedi tynnu lluniau ohonynt yn ystod y dydd.
Cyflwynodd Oliver Lewis a Sonia Marwaha eu darganfyddiadau mewn gwasanaethau ysgol i Flynyddoedd 8 a 9 er mwyn annog disgyblion i beidio â thaflu sbwriel er mwyn gwarchod y cynefinoedd hyn.
Gan ddefnyddio ein hadolygiad amgylcheddol, sylweddolon ni nad oedden ni wedi gwneud llawer o gynnydd yn yr adran fioamrywiaeth, felly penderfynon ni wneud rhywbeth am hyn. Roedd aelodau’r Eco-Bwyllgor yn awyddus i edrych ar gynefinoedd anifeiliaid ar safle’r ysgol gan ei bod yn ardal mor amrywiol. Roedden nhw eisiau archwilio’r ardal a darganfod pa anifeiliaid oedd yn byw yno.
Wrth gwblhau’r adolygiad amgylcheddol a chynllun gweithredu, teimlodd y disgyblion fod sbwriel yn broblem yn yr ysgol a bod diffyg ymwybyddiaeth o’r effaith y mae sbwriel yn ei gael ar fywyd gwyllt yn yr ardal. Teimlodd y disgyblion ei fod yn bwysig rhannu hyn gyda chymuned yr ysgol er mwyn annog pawb i drin y safle gyda pharch.
Ar ôl gwasanaethau ein haelodau eco, cawsom 6 aelod newydd a oedd eisiau mynd i’r afael â datrys y problemau sbwriel yn yr ysgol er mwyn gwarchod y bywyd gwyllt sydd gennym ar y safle. Dangosodd hyn i ni fod aelodau’r gymuned ysgol wedi ymateb i dystiolaeth ein hymchwil yn y ffordd yr oedden ni wedi gobeithio.
Adroddodd y grŵp yn ôl i gyfarfod a dweud bod y sefyllfa sbwriel wedi gwella’n sylweddol. Oherwydd COVID-19, doedden ni ddim yn gallu rhoi mesuriad cywir o hyn a chaeodd yr ysgol yn fuan wedi hynny, ond rydym yn parhau i wneud hyn yn flaenoriaeth yn ein cynllun gweithredu a byddwn yn mesur y canlyniadau’n llawn cyn bo hir wrth i ni barhau i atgyfnerthu’r neges honno i gymuned yr ysgol.
Mae’r darganfyddiadau hyn wedi ein hannog i ystyried sut fydd adeilad newydd ein hysgol yn cael ei adeiladau er mwyn gwarchod y bioamrywiaeth ar y safle. Oherwydd hyn, cytunodd y dirprwy bennaeth i ni gwrdd gyda phensaer yr adeilad newydd i drafod hyn ymhellach.
Dathlon ni ein llwyddiant drwy rannu ein canfyddiadau gyda Chyngor Cymuned Rogerstone a greodd argraff fawr arnyn nhw. O ganlyniad i hyn â’n Siarter Eco, enillon ni £300 mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Gyngor Rogerstone. Rydym yn defnyddio’r arian i weithredu camau gweithredu i wneud ein ysgol yn fwy eco-gyfeillgar. Rhannwyd ein llwyddiant ar ein tudalen eco ar Drydar.
Ein cam nesaf yw i ddefnyddio’r arian hwn i warchod y cynefinoedd hyn ymhellach. Mae awgrymiadau wedi cael eu gwneud sef prynu mwy o finiau o gwmpas y safle i atal pobl rhag taflu sbwriel ac i fuddsoddi mewn camera gweld yn y nos arall i barhau i fonitro’r bywyd gwyllt ar safle ein hysgol.
Hoffwn hefyd gynnal y gwasanaethau hyn yn flynyddol er mwyn annog aelodau o gymuned ein hysgol i feddwl yn ofalus am sbwriel a chadw safle’r ysgol yn ddiogel i’n hanifeiliaid a holl gymuned yr ysgol.
Byddwn yn cyflwyno ein canfyddiadau i bensaer yr adeiladau ysgol newydd i drafod sut y gallwn barhau i barchu a chadw’r cynefinoedd hyn.
Rwy’n credu ein bod hi’n bwysig cadw ein tirluniau hardd a naturiol gan eu bod yn helpu i lanhau ein llygredd ac yn darparu lle i’n fywyd gwyllt sydd mewn perygl fyw a ffynnu. Oliver Lewis (aelod yr eco-bwyllgor)
Oliver Lewis (aelod yr eco-bwyllgor)
Mae’r Eco-bwyllgor wedi cael tystiolaeth anhygoel drwy ddefnyddio’r camerâu gweld yn y nos gan weld moch daear a llwynogod. Mae mor bwysig ein bod ni’n defnyddio ein canfyddiadau i sicrhau bod cynefinoedd yr anifeiliaid anhygoel hyn, rhai sy’n rhywogaethau a warchodir yn y DU Miss E Murray (Athrawes AG a Chydlynydd Eco-Sgolion)
Miss E Murray (Athrawes AG a Chydlynydd Eco-Sgolion)