Eco-Schools
A A A

Cafodd ‘Cerdded ar ddydd Mercher’, Ysgol Gynradd Coed Glas

Mae Ysgol Gynradd Coed Glas yn un o’r ysgolion cynradd mwyaf yng Nghaerdydd. Mae wedi’i lleoli ar y brif ffordd yn Llanisien lle mae parcio a diogelwch yn broblem ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol oherwydd faint o geir sy’n pasio. Roedd y Pwyllgor Eco wedi cydnabod yr angen i annog mwy o ddisgyblion i gerdded i’r ysgol ym mhob tywydd.

Beth wnaethon nhw?

Cafodd ‘Cerdded ar ddydd Mercher’ ei gyflwyno i’r disgyblion mewn  gwasanaeth gan y Pwyllgor Eco yn gynnar yn nhymor y Gwanwyn. Dyfeisiodd disgyblion eu slogan eu hunain ‘does dim y fath beth â’r tywydd anghywir, dim ond y dillad anghywir’ a hyrwyddon nhw hyn fel rhan o’u gwasanaeth cerdded. Cafodd y disgyblion wybod y byddai 3 pwynt dojo yn cael eu rhoi i bob plentyn a oedd wedi cerdded i’r ysgol ar ddydd Mercher am weddill y flwyddyn ysgol.

 

Er mwyn annog disgyblion i fwynhau cerdded ym mhob tywydd, cynhaliodd y Pwyllgor Eco weithgaredd ‘cerdded mewn esgidiau glaw’ yn nhymor y Gwanwyn i  gael ei gwblhau fel rhan o waith dosbarth.  Cafodd cwestiynau i bob blwyddyn ysgol eu rhoi o gwmpas yr ysgol a chafodd disgyblion ym mhob dosbarth eu hannog i ddod o hyd i’r atebion ar gyfer gwobrau amser chwarae.

 

Roedd y Pwyllgor Eco eisiau ymgysylltu â’r ysgol gyfan ac felly cynllunion nhw wythnos o weithgareddau a heriau er mwyn i gerddwyr ymgysylltu â’r pethau o’u cwmpas wrth gerdded i’r ysgol bob dydd. Cafodd rhieni wybod am hyn drwy gylchlythyron am yr ‘wythnos cerdded i’r ysgol’, a chawson nhw restr o’r tasgau a fyddai’n cael eu cwblhau bob dydd er mwyn helpu eu plant. Cafodd yr ysgol gyfan wybod am y fenter fel rhan o wasanaeth ysgol a amlinellodd buddion gadael y car gartref.

 

Pob dydd cafodd y plant a oedd wedi cerdded i’r ysgol ddarn o bapur i gofnodi eu hatebion i’w heriau. Cafodd y darnau o bapur hyn eu defnyddio i fonitro’r nifer o ddisgyblion a oedd yn cerdded i’r ysgol gyda’r cynllun i greu murlun o’r llwyddiannau. Dyma’r heriau a gafodd eu gosod i’r disgyblion:

Dydd Llun – Camau i’r ysgol – cyfrif a chofio’r nifer o gamau a gymeroch chi i gyrraedd yr ysgol.

Dydd Mawrth – Diwrnod esgidiau hapus – gwisgo esgidiau sy’n eich gwneud yn hapus i’r ysgol heddiw.

Dydd Mercher – caru eich coed – cofleidio’r coed ar eich ffordd i’r ysgol. Cyfrif faint o goed rydych chi wedi’u cofleidio.

Dydd Iau– cofnodi coed – cyfrif a chofio faint o goed rydych chi wedi’u gweld ar eich ffordd i’r ysgol.

Dydd Gwener – hedfan yn rhydd– tynnu llun o aderyn neu bryfyn rydych chi wedi gweld ar eich ffordd i’r ysgol.

Mae’r murlun siâp coeden yn cynrychioli pob taith gerdded i’r ysgol yn ystod wythnos cerdded i’r ysgol.

Yn ystod yr wythnos, roedd mwy na 1000 o deithiau cerdded wedi’u cyflawni. Mae’r Pwyllgor Eco yn bwriadu ail wneud y gweithgaredd bob blwyddyn ac yn gobeithio y bydd y coed yn parhau i dyfu wrth i fwy o deithiau cynaliadwy yn cael eu gwneud i’r ysgol bob blwyddyn.

Ein hysgolion

Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Gweld ein map o ysgolion.

Cymryd rhan

Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.

Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill