Mae’r prosiect Bwyta’n Iach ac yn Gynaliadwy a gafodd ei lawnsio gan y rhaglen Eco-Sgolion | ABAE mewn partneriaeth gyda’r Jerónimo Martins Group, yn cael ei wireddu drwy gyfres o heriau sy’n anelu at annog plant, pobl ifanc, athrawon a theuluoedd i gael mwy o wybodaeth am fwyta’n iach ac yn gynaliadwy. Drwy hyn maen nhw’n dod yn barod i dderbyn newidiadau yn eu harferion bwyta yn eu bywydau bob dydd.
Mae sawl her yn cael eu cynnig i ysgolion gyda’r nod o ysgogi ymchwil ar wahanol agweddau yn ymwneud â’r pwnc ac annog gweithredu cynigion pendant. Eleni cafodd 7 her eu lansio i Eco-Sgolion:
Er enghraifft, yn y gweithgaredd Eco-Fwydlenni | Eco-Gogyddion, mae disgyblion yn cyflwyno bwydlenni iach a chynaliadwy yn seiliedig ar y Deiet Canoldirol. Mae’r timau sy’n cynnig yr awgrymiadau gorau yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu bwydlenni’n fyw.
Mae’r rhaglen Eco-Sgolion wedi bod yn datblygu’r prosiect hwn ers 2015 ac ar hyn o bryd mae tua 400 o ysgolion yn cymryd rhan ynddo.
Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.