Eco-Schools
A A A

Cefnogi’r RSPB trwy gofnodi niferoedd yr adar a sefydlu gorsaf fwydo

Sut gwnaeth eich pwyllgor nodi’r angen am y targed hwn?

Rydym wedi casglu data yn flaenorol ar gyfer yr RSPB a phenderfynwyd y byddai’n syniad da gwneud hynny eto.

Beth oeddech eisiau ei gyflawni?

Am fod gennym ardd fach iawn yn yr ysgol, penderfynwyd sefydlu gorsaf fwydo fyddai’n annog adar ac yn helpu cyfraddau goroesi

Beth wnaethoch chi a phwy gymerodd ran?

Cymerodd yr ysgol gyfan ran yn y sesiwn gwylio adar ond dim ond CA2 wnaeth y gweithgareddau dilyniant.

 

Sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan a sut gwnaethoch chi ddathlu’r cyflawniadau?

Ysgrifennwyd adroddiad ar gyfer y Llywodraethwyr ac ar gyfer y wefan.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol h.y. ydych chi’n bwriadu datblygu’r targed hwn ymhellach?

Parhau i fwydo’r adar trwy gydol y Gaeaf. Plannu llwyni ffrwythau fel mafon, cwrens duon mewn gwely uchel.
Ailadrodd y Sesiwn Fawr Gwylio Adar y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rywogaethau wedi diflannu o’n gardd. Cynnal gwiriadau rheolaidd yn y cyfamser.
Gwanwyn nesaf, hoffem godi ymwybyddiaeth yn lleol o’r gostyngiad yn nifer yr adar yn ein hardal ac annog aelodau o’r gymuned i ddarparu gerddi ac ardaloedd bywyd gwyllt sy’n gyfeillgar i adar.