Nod ein prosiect oedd hyrwyddo a hybu Teithio Llesol i’r holl gymuned ysgol.
Nod ein prosiect oedd hyrwyddo Teithio Llesol yn unol â’r agenda cenedlaethol er mwyn lleihau tagfeydd a llygredd yn ein cymuned leol a chefnogi ffyrdd o fyw iach. Er mwyn gwneud hyn defnyddion ni ein gwersi bugeiliol drwy greu cynllun gwers yn cynnwys 3 gwers i gynnwys yr holl ddisgyblion (blynyddoedd 7-13). Cafodd y gwaith ei gofnodi mewn llyfryn ac ychwanegodd athrawon dasgau ychwanegol i ffurflenni Google er mwyn casglu syniadau.
Gwers 1: Defnyddion ni glipiau David Attenborough: A Life on our planet fel sbardun ac edrychon ni ar effaith ddynolryw ar y byd naturiol.
Gwers 2: Edrychon ni ar yr hyn mae pobl yn gallu ei wneud i newid/lleihau dinistr i’r byd naturiol. Yna trafodon ni’r hyn y gellir ei wneud ar raddfa fyd-eang, cenedlaethol, lleol ac unigol. Cafodd yr wybodaeth honno ei chofnodi ar ffurflen Google ac yna gwnaeth y Clwb Eco ddadansoddi’r wybodaeth.
Gwers 3: Gwnaethom Awdit teithio ac yna edrychon ni ar Ultrecht yn yr Iseldiroedd fel astudiaeth achos. Ystyrion ni sut oedd Teithio Llesol wedi’i fewnosod yn niwydiant Ultrecht a’i lwyddiannau. Yna edrychon ni ar Benarth ac ystyried a fyddai’n bosibl gwneud rhywbeth tebyg yma a thrafodon ni rwystrau posibl. Meddylion ni hefyd y ffyrdd y gall Stanwell helpu i hyrwyddo Teithio Llesol Cafodd yr holl wybodaeth ei chofnodi ar ffurflenni Google a’i rhannu gyda’r Clwb Eco.
Wrth gwblhau’r Adolygiad Amgylcheddol, tynnodd aelodau’r cyhoedd a disgyblion a staff yr ysgol ein sylw at y tagfeydd y tu allan i’r ysgol ar ddechrau a diwedd y dydd. Fel pwyllgor, penderfynon ni ein bod ni eisiau ceisio lleihau traffig ac yn meddwl y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn oedd drwy hyrwyddo teithio llesol. Teimlon ni hefyd, yn dilyn y pandemig y dylem ganolbwyntio ar fenter a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorffol disgyblion a staff. Pan gafodd yr Adolygiad Amgylcheddol ei drafod gyda’r Pwyllgor Eco, roedd pawb yn gytûn ar bwysigrwydd y prosiect.
Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol gan ei bod wedi annog a hyrwyddo Teithio Llesol i gymuned yr ysgol gyfan. Mae disgyblion a staff yn deall beth yw Teithio Llesol ac wedi cael eu hysgogi i’w wneud yn rhan o’u ffordd o fyw. Roedden ni’n gallu cael effaith ar ymddygiad disgyblion a staff a’u gorfodi i fyfyrio ar eu heffaith bersonol ar yr amgylchedd. Yn hyn o beth, rydym yn gwella diwydiant yr ysgol ac yn symud i’r cyfeiriad cywir. Er nad oedd yr arolwg wedi casglu data ar gyfer pob disgybl, rydym wedi dyfeisio ffordd newydd o’i gasglu a bydd hyn yn ein helpu i fonitro ymddygiadau teithio yng nghymuned ein hysgol yn fwy cywir yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn (Hydref a Mehefin). Rhai effeithiau cadarnhaol eraill oedd bod 6 aelod o staff wedi ymuno â’r cynllun seiclo i’r gwaith ac fel y gwelwch yn y llun ar y dde, roedd disgyblion hefyd yn awyddus i gymryd rhan. Roedd hyn wedi golygu ein bod ni’n gallu defnyddio’r rheseli beiciau i’w llawn potensial.
Dathlon ni lwyddiant drwy rannu rhai o’r syniadau a gasglom ni ar y ffurflenni Google, (e.e. syniadau ar gyfer gwella Teithiol Lleol ym Mhenarth). Cafodd yr wybodaeth honno ei rhoi i ddisgyblion yn eu gwersi bugeiliol ar ôl i’r Cynllun Gwaith gael ei gwblhau ac ar ôl i’r Clwb Eco ddadansoddi’r canlyniadau.
Yn y dyfodol hoffem barhau i hyrwyddo Teithio Llesol drwy fentrau fel ‘Wythnos Beicio i’r Ysgol’ a’r ‘Pedal Mawr’. Rydym yn bwriadu monitro sut mae disgyblion yn teithio i’r ysgol drwy gasglu data ac yn defnyddio hwn i adnabod adegau drwy’r flwyddyn pan fydd disgyblion yn llai tebygol o deithio’n llesol a chyflwyno mentrau i fynd i’r afael â hyn.
Mae gwylio’r rhaglen a chwblhau’r tasgau myfyrio wedi pwysleisio pwysigrwydd teithio llesol a’r newidiadau rydym yn gallu eu gwneud ar lefel personol a lleol. Claire Power, Cadeirydd Eco Stanwell (Disgybl)
Claire Power, Cadeirydd Eco Stanwell (Disgybl)
Mae’n wych gweld y gymuned ysgol gyfan yn cymryd rhan yn yr un fenter a gweld disgyblion yn dod yn fwy ystyriol ac yn ymwybodol o’u heffaith ar yr amgylchedd. E Ghazi-Torbati, Cydlynydd Eco (Athro)
E Ghazi-Torbati, Cydlynydd Eco (Athro)
Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.