Eco-Schools
A A A

Ystafell Ddosbarth Awyr Agored a Gardd CA2

Yn unol â ffocws yr ysgol gyfan ar les, dysgu yn yr awyr agored a bioamrywiaeth, cafodd ystafell ddosbarth awyr agored a gardd eu creu ar ran o cae CA2. Tyfodd y Cyfnod Sylfaen lawer o flodau a chnydau; gan brofi lysiau newydd hefyd.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Arweiniodd Mrs Currums a disgyblion CA2 y prosiect. Cafwyd grant gan The Edina Trust a chefnogaeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Cefnogodd athrawon eraill, er enghraifft wrth greu pwll tân gyda phlant iau. Cafodd helyg eu cynaeafu o erddi’r Cyfnod Sylfaen  gyda’r plant ifancach. Cafodd yr helyg eu defnyddio i greu bwa helyg yng ngardd CA2. Roedd llawer o blant CA2 wedi cymryd rhan yn yr holl broses o ddylunio a fesur i balu, creu, plannu a sefydlu’r ystafell ddosbarth a’r ardd. 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Ar ôl yr adolygiad amgylcheddol diwethaf a ac ymgynghoriadau gyda’r disgyblion, daeth yn amlwg bod plant yr adran iau yn gweld eisiau ardal ardd y cyfnod sylfaen ac roedden nhw eisiau rhywbeth tebyg i’w hadran nhw.  Penderfynwyd ychwanegu ystafell ddosbarth allan o gylch boncyffion a  gardd CA2 i’n cynllun gweithredu.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Cafodd rhai o’r llysiau ( o erddi’r cyfnod sylfaen a CA2) eu bwyta yn yr ysgol ac roedd y rhai dros ben eu gwerthu. Defnyddiodd yr elw i brynu offer i ystafell ddosbarth awyr agored CA2. Mae’r ardd a’r ystafell ddosbarth ar agor i holl blant CA2. Mae bioamrywiaeth wedi cynyddu – roedd y plant wedi plannu helyg, blodau lluosflwydd, llysiau a gwnaethon nhw greu gwesty trychfilod.  Mae’r plant wedi gwneud arolygon syml ac yn eu monitro. Mae lles wedi gynyddu ac mae diwrnodau’r ystafell ddosbarth awyr agored yn uchafbwynt yr wythnos i ddisgyblion CA2 gydag ymddygiad heriol ac mae’r disgyblion gallu is yn ffynnu wrth wneud tasgau yn yr awyr agored.

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw’r camau nesaf?

Cawsom ddiwrnod dathlu ar ddiwedd y flwyddyn ysgol a gwahoddwyd yr holl ddisgyblion i ymweld a dathlu gyda’i gilydd. Mae mwy o helyg wedi’u torri i’w defnyddio yn y dyfodol, rydym wedi adeiladu twnnel polythen ac yn bwriadu tyfu llysiau drwy’r flwyddyn yno a phlannu llysiau’r gaeaf y tu allan.

Ein hysgolion

Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Gweld ein map o ysgolion.

Cymryd rhan

Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.

Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill