Eco-Schools
A A A

Pantri Bwyd Cymunedol yn Ysgol Gynradd Hirwaun

Lleihau gwastraff bwyd yn ein cymuned gan helpu teuluoedd  ar yr un pryd.

 

Hir

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Rydym wedi bod yn gweithio gyda siop leol Co-operative (Hirwaun), cynllun bwyd gwastraff Penderyn a’r Trussell Trust (Glynneath) i ddarparu Pantri Bwyd Cymunedol, lle rydym yn cynnig bwyd sy’n dod i ddiwedd ei ddyddiad defnyddio/ar ei orau cyn i  bobl o fewn y gymuned yn ogystal â theuluoedd yn yr ysgol. Mae’r holl ddisgyblion yn cael eu hysbysu am hyn ac mae’n cael ei hyrwyddo ar ein ap negeseuon ysgol a grŵp Facebook Ffrindiau Hirwaun.   

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y darged hwn?

Ar ôl cwblhau’r Adolygiad Amgylcheddol, un peth a gafodd ei nodi ar ein cynllun gweithredu oedd yr angen i leihau gwastraff. Roedden ni wedi edrych ar ailgylchu o’r blaen a phenderfynon ni edrych eto ar yr agwedd leihau. Yna gofynnodd y siop Co-op leol i ni ei helpu i leihau gwastraff bwyd a phenderfynon ni y byddai’n helpu i gwrdd ag un o’n targedau.

Sut mae’r prosiect wedi cael effaith ar eich ysgol a’ch cymuned?

Pan ddechreuodd y pantri, dim ond 1 neu 2 deulu oedd yn ei ddefnyddio. Nawr mae llawer mwy o deuluoedd yn ei ddefnyddio yn ogystal ag aelodau o’r gymuned sydd heb gysylltiadau â’r ysgol. Mae’n cael ei hyrwyddo ar ein ap negeseuon ysgol a grwpiau cymunedol ar Facebook. Roedden ni’n gallu rhoi hamperau i deuluoedd mewn angen adeg y Nadolig. Dywedodd Emma o Co-op. “Mae’n wych gweld teuluoedd yn y gymuned yn elwa o’r hyn y byddai wedi cael ei daflu fel arall, mae llawer llai o wastraff wedi bod ers dechrau’r pantri.”

Sut ydych chi’n dathlu llwyddiant a beth yw’r camau nesaf?

Byddwn yn parhau i gynnal y pantri cymunedol o leiaf unwaith yr wythnos. Dywedodd un rhiant, “does dim syniad gennych faint mae hyn wedi helpu” a hoffem helpu mwy o aelodau ein cymuned. Rydym nawr yn edrych ar prosiectau ailgylchu/lleihau gwastraff eraill fel cadw bin ar y safle ar gyfer deunyddiau pacio sydd ddim yn cael eu hailgylchu ar ymyl y ffordd.