Trefnodd Pwyllgor Eco Ysgol Gynradd Bryn Awel siop ‘dros dro’ i ail-garu hen wisg ysgol!
Gofynnodd yr Eco-Bwyllgor i gymuned yr ysgol ddylunio posteri i hybu ail-ddefnyddio gwisg ysgol. Gwnaeth yr ysgol gyfan gwblhau tasg cartref/ysgol gyda’u teuluoedd i ddylunio poster i hysbysebu siop ‘dros dro’. Dewisodd yr Eco-Bwyllgor nifer o ddyluniadau a’u rhoi o gwmpas yr ysgol. Cynhalion nhw arolwg ar y dechrau ac ar ôl gwerthu eitemau yn y siop a gwneud gwaith ar draws y cwricwlwm.
Cafodd ganlyniadau o’n adolygiad amgylcheddol eu hysgrifennu i’n Cynllun Gweithredu Eco. Un o’r meysydd ffocws oedd ‘lleihau gwastraff,’ a hybu ‘gwrthod, lleihau, ailddefnyddio, ailwerthu, ailgylchu.’
Cafodd drawstoriad o 54 o ddisgyblion eu harolygu cyn ac ar ôl y camau ar ‘leihau gwastraff’ gan gynnwys y fenter ‘siop dros dro’. Roedd effaith fesuradwy ar ymddygiad, agweddau, gwybodaeth a dealltwriaeth:
Mae Siop dillad ysgol ‘dros dro’ yn syniad hynod gynaliadwy y dylai pawb roi cynnig arni! Depindeer, Blwyddyn 6 Eco-Bwyllgor
Depindeer, Blwyddyn 6 Eco-Bwyllgor
Mae’r syniad eco menter ail-garu gwych hwn wedi anfon neges bositif i’r ysgol a’r gymuned ehangach! Mrs. Pascoe headteacher
Mrs. Pascoe headteacher
Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.