Eco-Schools
A A A

Atgyweirio beiciau diangen a dysgu sgiliau newydd

Mae’r bobl ifanc ym Mhrosiect Innovate yn atgyweirio beiciau diangen o’r gymuned leol i roi dewis cynaliadwy o drafnidiaeth i’w hunain.

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?

Mae dysgwyr ym Mhrosiect Innovate yn atgyweirio hen feiciau diangen, sydd wedi torri a roddwyd gan y gymuned leol.  Mae hyn yn golygu dysgu sgiliau newydd, mae’n helpu i ddatblygu hyder ac yn gwobrwyo’r rheiny sydd yn cymryd rhan gyda beic newydd ar y diwedd. Mae’r bobl ifanc i gyd yn gysylltiedig â’r prosiect.

Sut a pham y gwnaethoch benderfynu ar y targed hwn?

Daeth y prosiect beiciau i fodolaeth gyntaf yn dilyn ymgynghoriad gyda’r bobl ifanc, fe wnaethant fynegi diddordeb ac nid oedd gan y rhan fwyaf ohonynt eu beiciau eu hunain felly datblygodd Kevin (prif weithiwr ieuenctid) brosiect cynnal a chadw beiciau ar y safle a gofyn i’r gymuned ein cefnogi trwy gyfrannu beiciau diangen.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Mae’r dysgwyr yn elwa’n sylweddol ar y prosiect hwn am eu bod nid yn unig yn cael cadw’r beiciau ar ôl eu cwblhau, ond maent hefyd yn dysgu sgiliau newydd, yn cael cymryd rhan mewn gweithgaredd o’u dewis nhw, sydd yn datblygu sgiliau gwaith tîm, sgiliau sylfaenol, yn datblygu hyder yn ogystal ag ymgorffori llythrennedd a rhifedd.  Mae hefyd yn helpu i ddatblygu cysylltiadau yn y gymuned.  Mae’n lleihau gwastraff yn y gymuned leol ac yn hyrwyddo trafnidiaeth iach a chynaliadwy.

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Unwaith mae’r beiciau wedi eu cwblhau, bydd y bobl ifanc yn mynd ar deithiau beicio o amgylch y gymuned ac yn dysgu hyfedredd beicio.

Mae gennym 11 person ifanc ar y prosiect a bydd pob person ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan yn y prosiect beicio, bydd y prosiect yn barhaus a bydd unrhyw bobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan.