Creu siop gyfnewid gwisg ysgol sydd ar agor i ddisgyblion o bob oed ar draws ein hysgol uwchradd i gefnogi defnydd a chynhyrchu dillad cyfrifol i leihau gwastraff.
Mae ein hysgol gyfan yn rhan o drafodaeth fisol sy’n rhoi cyfle i’r holl ddysgwyr drafod materion ysgol, penderfyniadau ac i greu newid cadarnhaol i welliannau a darpariaeth yr ysgol. Yn y trafodaethau hyn rydym yn gallu cyrraedd nifer ehangach o ddysgwyr ar draws pob grŵp blwyddyn a chanfod safbwyntiau gwirioneddol y disgyblion a’r materion y maent yn eu hwynebu. Mae’r cyngor ysgol/ llais y disgyblion, Tîm y Swyddogion a’r Tîm Gwyrdd (Clwb Eco) wedi gallu sefydlu siop gyfnewid gwisg ysgol. Mae hyn yn galluogi holl aelodau ein cymuned ysgol i ddarparu gwisg ysgol ail-law nad ydynt eu hangen bellach heb orfod creu mwy o wastraff. Yn lle hynny, mae’r holl deuluoedd sy’n defnyddio cyfrifon cyfryngau’r ysgol yn ymwybodol o’r cyfleoedd hyn i ollwng unrhyw eitemau diangen ond hefyd i ymweld â’r ysgol yn arbennig yn ystod gwyliau’r ysgol i weld y gwisg ysgol y gallant ei gael yn rhad ac am ddim.
Rydym wedi derbyn barn y disgyblion ac wedi edrych ar y ffordd orau o gefnogi ein cyuned trwy greu siop gyfnewid gwisg ysgol sydd ar agor i bob dysgwr. Rydym yn teimlo bod y targed hwn yn gweithio’n dda ar draws cymuned yr ysgol am ei fod yn cynnwys disgyblion o’r cyngor ysgol, tîm y swyddogion a’r tîm eco yn cydweithio ar gyfle pwysig i leihau gwastraff a defnydd.
Fel aelod o’r Tîm Gwyrdd, y Clwb Eco a’r Tîm Swyddogion, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â chynllunio a chyflwyno siop gyfnewid gwisg ysgol yr ysgol. Roedd yn syniad gwych i helpu disgyblion o gefndiroedd difreintiedig i gael gafael ar wisg ysgol, rhywbeth y mae rhai teuluoedd yn cael anhawster yn ei wneud. Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â’r Tîm Gwyrdd ers i mi ddechrau’r ysgol uwchradd ac yn teimlo y gellir gwrando ar fyfyrwyr a defnyddio ein lleisiau i wneud newidiadau i bawb yn ein cymuned ysgol. Rwy’n teimlo bod siop gyfnewid gwisg ysgol yr ysgol yn enghraifft wych o hyn. Leo, Myfyriwr Blwyddyn 11.
Leo, Myfyriwr Blwyddyn 11.
Rwy’n credu ei fod yn gyfle gwych i’r ysgol gefnogi teuluoedd i alluogi ac annog pawb i ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu cyflenwadau gwisg ysgol a hefyd i gefnogi rhoddion eraill fel ffrogiau prom, gwisgoedd ar gyfer cyngherddau a chynyrchiadau’r ysgol yn ogystal â rhoddion o lyfrau y mae ein hadran Saesneg wedi bod yn gofyn amdanynt i gefnogi ein llyfrgell ysgol newydd. Miss H Morgan, Cydlynydd Eco-Sgolion.
Miss H Morgan, Cydlynydd Eco-Sgolion.
Gall y ffaith fod disgyblion yn gallu cael gafael ar siop gyfnewid gwisg ysgol roi mwy o gyfleoedd i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol gan gynnwys gwersi chwaraeon. Gall hyn alluogi llawer mwy o ddysgwyr ac aelodau’r teulu i fod â lefelau iechyd meddwl a chorfforol gwell am ei fod yn lleihau’r pryder a’r baich o wario arian pan mae teuluoedd yn profi caledi ariannol.
Mae ein llwyddiant wedi cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan yr ysgol er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth o ailddefnyddio eitemau fel dillad a thrwy roddion. Mae ein siop gyfnewid gwisg ysgol hefyd wedi gallu derbyn rhoddion o ffrogiau prom a dillad y mae tîm cynhyrchiad yr ysgol wedi gallu eu gwisgo yn y sioe eleni. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus i dderbyn nifer o roddion o lyfrau ar gyfer ein llyfrgell ysgol newydd yn cynnwys genres gwahanol i’n dysgwyr eu mwynhau.
Ein camau nesaf yw datblygu’r siop gyfnewid i gael ei rhedeg gydag eitemau ychwanegol i gefnogi dysgwyr sy’n defnyddio ein sgubor chwaraeon newydd sydd angen esgidiau penodol. Mae cyfle hefyd i rannu’r llwyddiant hwn gyda’n hysgolion cynradd clwstwr i roi opsiwn i ddysgwyr sy’n dechrau’r ysgol uwchradd ymweld â’n siop gyfnewid yn barod ar gyfer mis Medi. Ein gobaith yw ysbrydoli ein hysgolion cynradd clwstwr i ddechrau eu siopau cyfnewid dillad ysgol eu hunain i gefnogi lleihau gwastraff.
Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Gallwch gymryd rhan mewn ymgyrch, ymuno â gwers am ddim, a dal i fyny â hyfforddiant diweddar.