Mae gennym weledigaeth gyfunol o Gymru brydferth y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Yn ymarferol, gwyddom fod amgylchedd o ansawdd da yn bwysig i bobl ac y gall y buddion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n iechyd, ein llês, ein cymunedau a’n heconomi.
Ac fel bonws ychwanegol mae’n wŷch i fyd natur hefyd.
Darganfod mwyEin heffaith
Wrth i bawb gydweithio i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planed.
Newyddion diweddaraf
Beth rydyn ni'n ei wneud
Mae ein gwaith yn amrywio – o weithredu ymarferol ac addysg amgylcheddol, i osod safonau ar gyfer parciau, traethau a pholisi ac ymchwil.
Sbwriel a gwastraff
Rydym yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid awdurdod lleol i gadw ein hamgylchedd lleol yn lanach ac yn fwy diogel.
Darganfod mwy
Mannau gwyrdd
Rydym yn cefnogi pobl i greu a gofalu am fannau gwyrdd lleol, sydd o fudd i iechyd a lles, yn rhoi hafan i fywyd gwyllt ac yn bwydo i mewn i’r ymdrech fyd-eang ehangach i ymladd yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Darganfod mwy
Rhagoriaeth amgylcheddol
Rydym yn helpu i osod y safonau’n uchel ar gyfer mannau gwyrdd a thraethau yng Nghymru trwy ein hystod o wobrau rhyngwladol.
Darganfod mwy
Pobl ifanc
Bydd rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol nid yn unig yn eu grymuso i weithredu yn eu hysgol neu goleg, ond yn eu galluogi i ddylanwadu ar eraill yn y cartref ac yn y gymuned ehangach.
Darganfod mwy











