Eco-Schools
A A A

Iechyd a Lles yn Ysgol Tŷ Coch

Y Cwricwlwm Adfer a Chyflwyno Llythrennedd Corfforol

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Mae lles yn rhan bwysig o’n hysgol, gan ein bod ni’n credu y dylai lles y disgyblion fod yn iawn cyn i unrhyw ddysgu da ddigwydd. Mae pandemig wedi cael effaith enfawr ar ein disgyblion a’n staff ac roedd hi’n bwysig pan ddaethon ni yn ôl i’r ysgol ar ôl nifer o gyfnodau clo ein bo ni’n rhoi lles ar flaen ein cwricwlwm. Gwnaeth ein dosbarthiadau gwblhau amrywiaeth o weithgareddau lles er mwyn annog y disgyblion i deimlo’n ddiogel a siarad am eu teimladau ynghylch Covid. Un o’r gweithgareddau oedd cyflwyno sesiynau Llythrennedd Corfforol dyddiol. Y syniad y tu ôl i’r sesiynau hyn oedd i hybu seibiannau symud dyddiol a oedd yn ffocysu ar ddatblygu pum sgil allweddol, taflu, neidio, rhedeg, cydbwysedd a chryfder. Cawsom Ddiwrnod Llythrennedd Corfforol ym Mai 2021 i ddechrau’n sesiynau dyddiol.

Pryd a pham wnaethom benderfynu ar y targed hwn?

Gyda’r amhariadau mae Covid wedi’u hachosi, roedd y Pwyllgor yn meddwl ei bod hi’n  bwysig i ganolbwyntio ar Iechyd a Lles y disgyblion a staff yr ysgol gyfan. Penderfynon ni ein bod ni’n gallu gwneud mwy o ymarfer corff.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Gweithiodd y Cwricwlwm Adfer yn dda yn yr ysgol, yn enwedig pan ddaeth y plant yn ôl yn gyntaf. Gwnaeth y disgyblion eu pypedau bys  chafodd pob dosbarth arian i brynu pyped i’r dosbarth. Roedd y pypedau hyn wedi annog y disgyblion i fynegi sut oedden nhw’n teimlo am ddod yn ôl i’r ysgol, ac yn y blaen ac yn galluogi staff i ddatblygu’r ffyrdd gorau i gefnogi eu dosbarthiadau. Cafodd y disgyblion eu hannog i dreulio llawer o amser yn yr awyr agored a dyna lle cafodd y sesiynau Llythrennedd Corfforol eu hymgorffori. Gwnaeth y disgyblion fwynhau cystadlu mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol yn cwmpasu’r pum maes o neidio, rhedeg, cydbwyso, nerth a thaflu ac roedd hyn wedi ehangu eu lles. Cafodd staff hyfforddiant a’u hysgogodd a’u cynorthwyodd gyda syniadau ar gyfer y sesiynau.

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw’r camau nesaf?

Roedd pob dosbarth wedi arddangos a rhannu rhai o’r gweithgareddau lles yr oedden nhw wedi’u cwblhau fel rhan o’r Cwricwlwm Adfer. Mae dosbarthiadau wedi creu arddangosfeydd Llythrennedd Corfforol hefyd sy’n cynnwys siart sy’n dangos cyfranogiad y disgyblion gyda’r gweithgareddau. Mae’r siartiau yn cael eu tracio ac mae targedau yn cael eu datblygu i’w cwblhau gan yr ysgol gyfan, megis cerdded i Romania.  Y camau nesaf fyddai parhau â’r sesiynau Llythrennedd Corfforol yn ogystal â’r sesiynau milltir dyddiol a gafodd eu cyflwyno y llynedd. Mae lles ar flaen popeth a wnawn, felly mae hyn yn elfen bwysig ar gyfer y dyfodol.

Ein hysgolion

Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Gweld ein map o ysgolion.

Cymryd rhan

Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.

Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill