Nod y prosiect yw darparu amgylchedd ddysgu amgen i ddisgyblion Ysgol Llanilltud Fawr. Roedden ni eisiau eu hannog i ymgysylltu â natur a meddwl yn gynaliadwy yn ogystal ag ymestyn cysylltiadau’r ysgol â’r gymuned.
Rydym wedi ymestyn ein gardd ysgol i ddarparu amgylchedd ddysgu amgen i ddisgyblion ymgysylltu â natur a dysgu o ble mae eu bwyd yn dod. Yn ogystal â hyn, roedden ni eisiau gwella eu hiechyd meddwl a darparu cyfleoedd cyffrous a fyddai’n cysylltu â 4 diben Cwricwlwm Newydd Cymru a Chynllun Datblygu’r Ysgol. Mae wedi bod yn brosiect i’r ysgol gyfan a’r gymuned gyda llawer o gyfraniadau a gwirfoddolwyr!
Yn dilyn llwyddiant ein gardd ysgol yn 2018/19 a phlannu coed yn y gymuned 2019/20, noddodd ein hadolygiad amgylcheddol yr awydd i ledaenu cysylltiadau â’r gymuned a gwella ecoleg yn yr ysgol. Roedden ni eisiau mynd â gwella gardd yr ysgol a diolch i brofiad Mr Jones a Mr Rees yn ogystal â grant loteri llwyddiannus, roedden ni’n gallu dechrau ar ein taith!
Mae’r prosiect Yn ôl i Natur wedi gwneud cynnydd gwych. Mae dros 300 o ddisgyblion wedi bod yn gweithio ar y prosiect ac yn mwynhau eu hamser yn yr awyr agored yn tyfu eu bwyd eu hunain. Mae’r gefnogaeth o’r staff a’r gymuned wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni wedi plannu 250 o goed, adeiladu 8 gwely pren, twnnel polythen, popty pridd a deildy, tanc casglu dŵr glaw yn ogystal â phlannu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau gan gynnwys tatws, tomatos, pwmpen cnau menyn, gwrdiau, mangetout, ffa llydain, ffa, moron a nionod!
Cafodd cyflawniadau eu dathlu drwy’r cyfryngau cymdeithasol (Trydar). Roedd hysbysiadau ar sgriniau teledu’r ysgol / byrddau ymddangos a’r cylchlythyr.
Ein camau nesaf yw cryfhau cysylltiadau â’r cwricwlwm, darparu hyfforddiant ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a phlannu mwy o flodau gwyllt. Cael arian o werthu cynnyrch.
Gan fy mod i wedi cael fy magu ar fferm, mae’r math hwn o addysg bob amser ar flaen fy meddwl. Rwyf mor falch o sut mae’r prosiect wedi datblygu mewn cyn lleied o amser. Mae addysg yr awyr agored a dod o hyd i fwyd cynaliadwy yn rhan annatod o’r cwricwlwm a’r gymuned yn Ysgol Llanilltud Fawr. Mr Jones (Athro Cemeg /Cyd-arweinydd y prosiect
Mr Jones (Athro Cemeg /Cyd-arweinydd y prosiect
Dw i wir yn mwynhau gweithio yn yr ardd achos mae’n hwyl a dw i’n dysgu am bethau na fydda i’n cael cyfle i ddysgu amdanyn nhw fel arfer. Er enghraifft, plannu a thyfu ffa ddringo a sut mae angen le gwahanol ar wahanol fathau o blanhigion. Caleb Payne (Disgybl Blwyddyn 8)
Caleb Payne (Disgybl Blwyddyn 8)