Dyma sut mae Ysgol Uwchradd Bryngwyn wedi mynd i’r afael â phroblem gwm cnoi ac wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth mawr.
Gwnaeth y Pwyllgor Eco ymchwil ar broblem gwm cnoi yn yr ysgol. Wnaethon nhw arbrawf yn defnyddio gwm cnoi mewn cyfarfod y pwyllgor. Gwnaeth y disgyblion roi’r gwm cnoi mewn dysglau petri, yna mesuron nhw’r bacteria a oedd wedi tyfu mewn wythnos. Cyflwynodd y disgyblion eu darganfyddiadau i’r pennaeth a rhannon nhw ganlyniadau’r ystafelloedd dosbarth gwaethaf ac un o’r rhain oedd yr ystafell goginio!
Daeth y targed o aelodau newydd blwyddyn 7 ein Pwyllgor Eco ac roedd ar ein cynllun gweithredu. Yn dilyn trafodaeth gyda Bethan, ein Swyddog Addysg a soniodd am y prosiect Gollwng Gwm, cafodd y syniad ei gyflwyno i’r Uwch Dîm Reoli a gytunodd gefnogi cost y biniau a chafodd tri bin eu rhoi yn yr ysgol.
Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr ac rydym wedi gweld lleihad yn y gwm sy’n cael ei ollwng o gwmpas yr ysgol ac mae’r biniau yn cael eu defnyddio’n rheolaidd. Mae’r gofalwr wedi dweud bod y sefyllfa gymaint yn well ers rhoi’r biniau gollwng gwm o gwmpas yr ysgol.
Cynhalion ni wasanaeth i hysbysebu’r biniau a gafodd ei ddangos i bob blwyddyn ysgol. Cafodd y llwyddiant ei rannu gan ddefnyddio lluniau ar fwrdd arddangos y Pwyllgor Eco. Mae rhieni ac ymwelwyr eraill i’r ysgol yn gwneud sylwadau cadarnhaol am y biniau ac rydym fel pwyllgor yn falch iawn o’n llwyddiant.
Cyflwyno ni’r biniau gollwng gwm achos roedd problem gyda gwm cnoi mewn llefydd yn yr ysgol. Rwy’n falch iawn am sut mae’r biniau wedi cael eu defnyddio gan ddisgyblion ac athrawon hefyd Lucy moon (aelod y pwyllgor eco)
Lucy moon (aelod y pwyllgor eco)
Rwy’n falch iawn am ba mor aml mae ymwelwyr i’r ysgol yn gwneud sylwadau am ein biniau gollwng gwm. Mae’n gwneud i’r disgyblion deimlo eu bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i amgylchedd ein hysgol Miss Fair (cydlynydd eco)
Miss Fair (cydlynydd eco)
Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.