Prosiect creadigol i ddod â bywyd yn ôl i’r cwad, gan ei wneud yn faes y gallai bywyd gwyllt, addysg ac er lles disgyblion a staff ei ddefnyddio.
Ym mis Mawrth, wrth i’r ysgolion newid eu rôl i fod yn ddarparwyr gofal plant i weithwyr Allweddol a disgyblion agored i niwed, roedd staff Dwr y Felin yn awyddus i gynnig ystod o weithgareddau ar gyfer y disgyblion oedd yn mynychu. Mae wedi bod yn ddymuniad gan rai o’r staff ers peth amser i adfywio ardal y Cwad ac felly roedd y cyfnod clo yn gyfle gwych i wireddu’r uchelgais hwn.
Mae’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru wedi galluogi adrannau i feddwl yn greadigol am ffyrdd o gyflwyno materion a chysyniadau i ddisgyblion CA3. Teimlwyd y gellid defnyddio gardd fel adnodd i bwysleisio cysylltiadau’r cwricwlwm rhwng Gwyddoniaeth a chynhyrchu Bwyd, fyddai hefyd yn ymgorffori rhyngweithio STEM.
Gellir defnyddio cynnyrch wedi ei dyfu yn yr ysgol mewn technoleg bwyd, fyddai’n dangos taith bwyd yn glir i ddisgyblion. Er mwyn hybu iechyd a lles, teimlwyd y gellid defnyddio gardd fel gofod i ddisgyblion ymlacio, yn ogystal â man tawel i ddisgyblion sydd yn mynychu’r ganolfan ASD sydd newydd agor. Yn ogystal, byddai clwb garddio yn gwella darpariaeth gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol.
Mae gweld wynebau cymuned yr ysgol yn goleuo wrth werthfawrogi lliw a chynnyrch yr ardd wedi bod yn uchafbwynt. Mae lluniau o’r ardal ar ei newydd wedd wedi cael eu harddangos ar wefan yr ysgol.
Roeddwn yn teimlo’n bryderus yn yr ysgol yn ystod y pandemig ond roedd gallu treulio amser yn yr ardd yn teimlo fel ffordd wirioneddol o ymlacio a thynnu fy sylw oddi ar hyn. Aelod o staff
Aelod o staff
Nid wyf erioed wedi tyfu tatws o’r blaen, nid oeddwn yn sylweddoli ei fod mor hawdd â hyn! Disgybl
Disgybl
Y targed yw cynnal a chadw’r ardd a’i defnyddio’n rhagweithiol yn y cwricwlwm tra’n ymgysylltu disgyblion yn yr ardd. Y gobaith hefyd yw y caiff y gofod ei ddefnyddio’n effeithiol fel ardal ddiogel a thawel i’n staff a’n disgyblion i gyd.