Eco-Schools
A A A

Archwilio effeithiau byd-eang y newid yn yr hinsawdd gyda Mbale, Uganda

Rhannu pryderon am yr hinsawdd a Hawliau’r Plentyn

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?

Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gydag ysgol yn Mbale, Uganda trwy brosiect PONT / Elusen Maint Cymru. Trefnodd PONT bod Eleanor, ein cydlynydd cyswllt â Mbale a’i chydweithwyr sydd yn athrawon, yn ymweld â ni.

Dysgodd yr ysgol gyfan gân yn Swahili a dysgu am Mbale cyn yr ymweliad a pharatoi cwestiynau am bryderon am yr hinsawdd, hawliau’r plentyn a diwylliant Affricanaidd. Testun Bl1 oedd Affrica, felly treuliodd ein Hymwelwyr y bore yn y dosbarth, yn sôn am yr anifeiliaid a newidiadau i’r hinsawdd.

Sut a pham y gwnaethoch benderfynu ar y targed hwn?

Fel ysgol roeddem eisiau cael dealltwriaeth am y ffordd y mae gwledydd eraill yn ymdopi â newid yn yr Hinsawdd a pha hawliau plant sydd wedi eu sefydlu – A oes ganddynt yr un anghenion â ni? Yn ddiweddar, cafodd rhai ardaloedd o Gymru lifogydd ac o’n gwers ddosbarth yn CA2, dioddefodd Mbale lifogydd dinistriol wnaeth effeithio ar eu cartrefi, eu bywydau a sefydlogrwydd economaidd hefyd. Crëwyd posteri fel rhan o Gystadleuaeth Cynhesu Byd-eang Torfaen.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Cododd ymwybyddiaeth o ddiwylliant arall a’r un pryderon yr ydym ni’n eu hwynebu e.e. Newid yn yr hinsawdd, llifogydd. Rydym yn hysbysu’r gymuned sut gallant gynorthwyo gartref, fel helpu i gymryd rhan mewn Diwrnod Gwyrdd sydd yn cynorthwyo pentrefi fel Mbale, gyda Phrosiect Plannu Coed. Mae rhieni a’r gymuned yn cael y wybodaeth ddiweddaraf trwy gylchlythyr yr ysgol, ac mae plant CA2 yn ysgrifennu llythyrau i’n hysgol bartner yn Mbale. Mae wedi cynyddu empathi ac ymwybyddiaeth y plant bod Newid yn yr Hinsawdd yn effeithio ar ein bywydau i gyd, ble bynnag yr ydym yn byw.

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Ein nod yw parhau â’n Cysylltiadau, gan ganolbwyntio ar brosiect a pharhau i sefydlu Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ein cynllunio. Byddwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o effeithiau newidiadau i’r hinsawdd a hawliau plant – yn arbennig yr hawl i gael addysg, dŵr glân, bwyd a lloches.

Fel ysgol, byddwn yn parhau i gefnogi’r elusen Maint Cymru, a chymryd rhan mewn Digwyddiadau Newid yn yr Hinsawdd.

Ein hysgolion

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Map Eco-Sgolion

Cymryd rhan

Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.

Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill