Nod y prosiect oedd gwella cysylltiadau’r ysgol/gymuned yn ogystal â gwella ecoleg yr ardal leol trwy blannu mwy o goed a mannau blodau gwyllt o amgylch Llanilltud Fawr.
Ymunodd disgyblion a staff gwirfoddol o grwpiau oed/adrannau gwahanol gyda Plant Llantwit, grŵp cadwraeth amgylcheddol lleol, i blannu 420 o goed ger Fferm Rosedew. Cymerodd rieni ran yn y diwrnod hefyd – a’i wneud yn ddigwyddiad gwirioneddol gymunedol.
Yn dilyn llwyddiant ein gardd ysgol yn 2018/19, amlygodd ein Hadolygiad Amgylcheddol y dymuniad i ehangu cysylltiadau cymunedol a gwella ecoleg yn yr ardal leol.
Yn ei flwyddyn gyntaf, aeth Plant Llantwit y tu hwnt i’w darged o blannu 1,000 o goed. Oherwydd ei lwyddiant, mae’r prosiect yn ei ail flwyddyn ac rydym yn edrych ymlaen at wirfoddoli eto yr hydref hwn i blannu mwy o fylbiau yn y gymuned leol.
Yn ogystal â buddion amgylcheddol eithriadol plannu coed a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal, mae wedi cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad disgyblion a’r amgyffrediad o bobl ifanc yn y gymuned. Mae wedi dod â phobl hen ac ifanc ynghyd a thrwy hynny, gwerthfawrogiad o’r dirwedd wirioneddol drawiadol ar eu stepen drws.
Roedd yn wych gweld cymaint o ddisgyblion, staff, rhieni a phobl o’r gymuned leol yn dod ynghyd i wneud i hyn ddigwydd. Mae wedi bod yn ddiwrnod mor werth chweil ac un fydd, gobeithio, yn parhau i’r dyfodol. Da iawn bawb! Mr Rees – Daearyddiaeth
Mr Rees – Daearyddiaeth
Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr – hyd yn oed os oedd yn wlyb ac yn fwdlyd! Roeddem yn gweithio’n ddal fel tîm yn plannu llawer o goed ac rwy’n falch fy mod wedi bod yn rhan o’r prosiect…mae gwybod fy mod wedi helpu i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned fydd yn parhau am flynyddoedd i ddod yn deimlad da. Lauren – Blwyddyn 12
Lauren – Blwyddyn 12
Dathlwyd y cyflawniadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol (Twitter/Facebook) yn ogystal â’r papur newydd lleol (The Gem). Cafodd lluniau eu harddangos ar sgriniau teledu/hysbysfyrddau’r ysgol ac yng nghylchlythyr yr ysgol.
Ein camau nesaf yw parhau gyda’r bartneriaeth hon trwy wirfoddoli ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol yn ogystal â phlannu coed/bylbiau ar dir yr ysgol.
Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
gdfgfd