Eco-Schools
A A A

Creu bwydlen ginio iach a chynaliadwy

Roedd y disgyblion eisiau mwy o ddewis o fathau gwahanol o fwyd ar draws y byd a dewisiadau iachach. Dywedodd y disgyblion, i hyn i ddigwydd, y byddai angen i fwy o ddisgyblion ddewis cinio ysgol yn hytrach na dod â phecyn bwyd, fyddai, yn ein barn ni, yn lleihau’r gwastraff oedd yn cael ei weld wrth i bobl ddod â phecyn bwyd yn ogystal â’r gwastraff o ginio yr oedd y disgyblion yn dweud nad oeddent yn ei hoffi.

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Cyflwynwyd llawer o syniadau ond trafodwyd y syniad o ddiwrnod dim cig, oedd yn un o heriau Eco-Sgolion Platinwm y llynedd.
Gofynnwyd i gynrychiolwyr yr Eco-Gyngor a’r Cyngor Ysgol drafod y materion gyda’u dosbarth a rhoi adborth yn ystod cyfarfodydd. Cafodd y disgyblion oedd yn dod â phecyn bwyd gynnig profi’r bwydydd newydd oedd yn cael eu cynnig.

Sut a pham y gwnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Yn wreiddiol, roedd hwn yn fater ddaeth o gyngor yr ysgol ac a godwyd wedyn mewn cyfarfod o’r Eco-Bwyllgor. Roedd y disgyblion yn anfodlon am y dewisiadau oedd ar gael iddynt amser cinio ac eisiau mwy o amrywiaeth a dewisiadau iachach hefyd. Roeddent hefyd eisiau lleihau faint o wastraff bwyd oedd yn cael ei greu.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Yr effaith fwyaf a welwyd oedd nifer gynyddol y disgyblion oedd yn dewis cael cinio yn yr ysgol. Cynyddodd y % o 54% ar ddechrau 2017/2018 i 82% ar ddiwedd y flwyddyn ysgol. Mae’r fwydlen bellach yn llawer mwy amrywiol o un wythnos i’r llall ac yn cynnwys diwrnodau thema ar draws y byd yn ôl cais y disgyblion! Mae staff y ffreutur hefyd yn gwisgo i fyny ar rai o’r diwrnodau hyn! Mae staff y ffreutur hefyd wedi dweud eu bod wedi gweld gostyngiad mawr mewn gwastraff bwyd ers cyflwyno’r dewisiadau newydd ar y fwydlen.

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Mae’r adborth gan ddisgyblion am y newid hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’r disgyblion bellach yn siarad yn gadarnhaol am y bwyd yn yr ysgol ac yn trafod pa fwyd sydd ar y fwydlen bob wythnos ac o ble mae’n dod. Un ffefryn oedd paella a chafwyd cais i gael hwn ar y fwydlen yn amlach. Mae’r bwyd sydd yn cael ei weini yn fwy lleol hefyd lle y bo’n bosibl.